Defnyddwyr Ysgolion ac Ysgolion Bach
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau, CIST-Llangefni, Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai, Ty Gwyrddfai, Employers site
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
½ diwrnod
Defnyddwyr Ysgolion ac Ysgolion BachCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs wedi ei anelu at y rhai sydd yn defnyddio ysgolion ac ysgolion bach yn aml wrth gyflawni eu dyletswyddau dyddiol. Bydd y cwrs yn cynnwys deddfwriaeth gyfredol, Cod Ymarfer, Rheoliadau ac Arweiniad sy'n effeithio ar weithio o uchder. Pynciau cwrs yn cynnwys:
- asesu a phenderfynu pryd y mae'n briodol defnyddio ysgol neu ysgol fach
- lleoli ysgolion ac ysgolion bach yn gywir a'u defnyddio yn ddiogel
- dod i ddeall y gyfraith a'r safonau yn ymwneud ag ysgolion ac ysgolion bach
- dod i ddeall y peryglon wrth ddefnyddio ysgolion ac ysgolion bach
- dod i ddeall sut i storio a thrin ysgolion ac ysgolion bach.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Cyflwyniad
Bydd y cwrs yn cael ei ddysgu drwy sesiwn ystafell ddosbarth gyda sleidiau lle mae'r hyfforddwr yn darparu gwybodaeth a holi cwestiynau.
Bydd yna holiadur unigol ar y defnydd diogel ac effeithiol o ysgolion ac ysgolion bach. Mae yna weithgareddau asesu - cwestiynau aml ddewis, dod o hyd i namau mewn ysgolion ac ysgolion bach a gosod ysgolion ac ysgolion bach yn eu lle.
Bydd tystysgrif Ladder Association a Ladder Card yn cael ei roi i fynychwyr cwrs llwyddiannus sydd yn cwblhau'r sesiynau asesu theori ac ymarferol ac mae ganddynt gyfnod o ddilysrwydd o 5 mlynedd.
Asesiad
Bydd yna brawf llyfr caeedig gyda marc pasio o 80%.
Dilyniant
Cyrsiau Eraill GLLM mewn Iechyd a Diogelwch https://www.gllm.ac.uk/cy/sear...
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Iechyd a Diogelwch
Dwyieithog: