Prentisiaeth Uwch – Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
36 mis
Prentisiaeth Uwch – Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5Prentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i ddarparu gweithwyr medrus o safon uchel i'r sector gofal cymdeithasol er mwyn cefnogi gwaith cynllunio a dilyniant i arweinwyr a rheolwyr yn y maes. Mae'n cynnig dilyniant i staff profiadol i staff ennill y cymhwyster angenrheidiol i fynd ymlaen i reoli ac arwain ym maes gofal cymdeithasol.
Mae gofyn i reolwyr cartrefi gofal plant ac oedolion yng Nghymru gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru ac o 2013 ymlaen bydd rheolwyr gwasanaethau sy'n cynnig gwasanaeth hefyd yn gorfod cofrestru. Mae hwn yn gymhwyster sydd yn seiliedig ar gymhwyster ac mae'r fframwaith yn cyflwyno’r cymwysterau y byddwch chi eu hangen. Mae’r cyrsiau hyn yn ddilyniant naturiol o'r cwrs Fframweithiau Ymarferwyr Uwch.
Mae yna nifer o lwybrau:
- Rheoli Gwasanaethau i Oedolion
- Rheoli Gwasanaethau Preswyl i Oedolion
- Rheoli Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
- Rheoli Gwasanaethau Preswyl i Blant a Phobl Ifanc
Gofynion mynediad
Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ar gyfer y rhai sydd â phrofiad mewn rôl arwain neu reoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n bodloni gofynion rheoleiddiol ychwanegol sy'n berthnasol i rai lleoliadau gwaith.
Mae’n addas ar gyfer dysgwyr sydd:
- yn edrych i ddangos y cymwyseddau a nodir yn y cymhwyster fel rhan o'u rôl waith, ac sy'n bodloni unrhyw reoliadau isafswm oedran y lleoliad gwaith
- wedi cwblhau cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 4 priodol, sy'n cael y cyfle i roi theori ar waith, ac yn bodloni unrhyw ofynion rheoleiddiol ychwanegol
- Rhaid i ddysgwyr gael eu cyflogi mewn rôl addas mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
- TGAU - graddau C neu uwch (neu raddau cyfatebol) mewn Saesneg / Cymraeg a Mathemateg. Efallai y bydd gofyn i ddysgwyr heb y graddau hyn uwchsgilio yn gyntaf a bydd angen iddynt gwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed o leiaf i ddilyn y cymhwyster hwn.
Cyflwyniad
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ar gyfer y rhai sydd â phrofiad mewn rôl arwain neu reoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac fe’i cyflwynir ar sail un i un yn y gweithle.
Asesiad
Lefel 5 Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: bydd ymarfer yn cael ei asesu'n allanol.
Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- portffolio o dystiolaeth
- prosiect busnes
- trafodaeth broffesiynol
Mae cynnwys gorfodol y cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:
- Arwain a rheoli arfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn/plentyn
- Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
- Arwain a rheoli ansawdd y ddarpariaeth gwasanaethau er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a sefydliadol
- Ymarfer proffesiynol
- Arwain a rheoli ymarfer sy’n hyrwyddo diogelu unigolion
- Arwain a rheoli iechyd, diogelwch a diogeled yn y lleoliad gwaith
Mae amrywiaeth o unedau dewisol ar gael o fewn y cymhwyster hwn hefyd
Dilyniant
Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen â'u cyfleoedd cyflogaeth neu i barhau i astudio ymhellach ar lefel uwch.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
5
Maes rhaglen:
- Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dwyieithog:
Darpariaeth dwyieithog ar gael
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant