CPCAB ⁠Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Cwnsela

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Online
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    30 wythnos, 3 awr yr wythnos

Cofrestrwch
×

CPCAB ⁠Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Cwnsela

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i gyflwyno gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd craidd er mwyn defnyddio sgiliau cwnsela mewn modd moesegol a diogel mewn amrywiaeth o gyd-destunau a rolau.

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer:

  • Unigolion sy'n dechrau ar lefel gyntaf eu hyfforddiant fel cwnselydd proffesiynol.

  • Unigolion mewn gwaith arall neu sy'n cyflawni rolau cymorth sydd eisiau dysgu sgiliau cwnsela.

  • Unigolion sydd eisiau gwella eu perthynas proffesiynol a'u perthynas personol fel rhan o'u datblygiad personol.

Gallai'r cymhwyster arwain at waith neu wella cyflogadwyedd rhai sydd â chyfrifoldeb dros gynorthwyo eraill e.e. ym maes iechyd a chymdeithasol, ym maes dysgu ac addysgu, gwaith eiriolaeth a chyfryngu, gwaith prosiect a chefnogi a rolau cefnogi eraill.

Mae'n cyflwyno sgiliau ychwanegol i'r rhai sydd eisoes yn gweithio ac yn debygol o arwain at well cyfleoedd i ennill dyrchafiad a datblygiad o fewn swydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ffoniwch 01492 546 666 est. 1729 neu e-bost counsellingapplications@gllm.ac.uk

Cwestiynau Cyffredin Cwnsela – Lefel 2

Sawl wythnos yw'r cyrsiau?
Mae’r cyrsiau Agored ar y safle yn 15 wythnos academaidd o hyd.
Mae cwrs ar-lein CPCAB yn 30 wythnos academaidd o hyd.

Faint mae L2 yn gostio?
Gall prisiau newid bob mis Medi ond i roi syniad i chi, y prisiau ym mis Medi 2024 oedd:

  • Cwrs Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela Sylfaenol Lefel 2 Agored - £249.
  • ⁠Tystysgrif CPCAB Lefel 2 mewn Sgiliau Cwnsela - £679.

Bydd y pris cyfredol ar gyfer y cwrs i'w weld ar-lein cyn i chi wneud cais.

A allaf gymryd rhan yn y dosbarthiadau ar-lein?
Darperir cyrsiau CPCAB yn gyfan gwbl ar-lein.

Darperir cyrsiau Agored ar y safle ac ni ellir eu cwblhau ar-lein.

Pryd mae'r cwrs yn dechrau
Mae’r dyddiadau cychwyn yn amrywio ar gyfer ein cyrsiau gwahanol yn dibynnu ar y galw.

Fodd bynnag, fel arfer bydd cwrs Lefel 2 Agored yn dechrau ym mis Medi a mis Ionawr, ac fel arfer cynigir Lefel 2 CPCAB ym mis Medi.

Ar ba ddiwrnod/amser mae'r cwrs?
Mae'r diwrnod yn amrywio ar gyfer pob cwrs ond cynhelir y cyrsiau gyda'r nos fel arfer rhwng 6pm a 9pm.

A allaf dalu mewn rhandaliadau?
Gallwch, bydd angen i chi dalu blaendal o 20% o leiaf ac yna cytunir ar randaliadau gyda’n Hadran Gyllid sydd fel arfer yn:

  • uchafswm o 4 rhandaliad ar gyfer ffioedd dysgu o £100-£500
  • 8 rhandaliad ar gyfer ffioedd dysgu dros £500.

Bydd gofyn i chi sefydlu archeb sefydlog gyda'ch banc os byddwch yn talu mewn rhandaliadau.

Pryd y gallaf weithio fel Cwnselydd
Ar ôl cwblhau Tystysgrif Lefel 4 mewn Cwnsela neu BSc Cwnsela

Beth yw'r llwybr gorau i gymhwyso yn Gwnselydd cymwys
Cwblhau Lefel 2, Lefel 3 a Thystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn cwnsela neu cwblhau'r FSc/BSc mewn cwnsela.

A oes rhaid i mi gwblhau Lefel 2?
Gallwch ddewis dechrau gyda’r FSc mewn Cwnsela ond os dewiswch astudio drwy’r llwybr Agored neu CPCAB gofynnwn i bawb gwblhau L2 gan ei fod yn sefydlu'r lefel dysgu sylfaenol ac yn llwybr dilyniant. Yr unig eithriad fyddai os oes gennych o leiaf 30 awr o brofiad cwnsela y gellir ei dystiolaethu.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng CPCAB Lefel 2 ac Agored Lefel 2?
Mae model CPCAB yn trafod damcaniaethau yn ymwneud â chwnsela yn fwy manwl, yn cynnig persbectif ar amrywiaeth a gwell dealltwriaeth ohonom ni ein hunain. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau sylfaenol i ddysgwyr ddefnyddio sgiliau cwnsela yn foesegol ac yn ddiogel mewn amrywiaeth o gyd-destunau a rolau.

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer:

  • Y rhai sy'n dechrau ar y lefel gyntaf o hyfforddiant fel cynghorydd proffesiynol
  • Y rhai sydd eisiau dysgu sgiliau cwnsela mewn rolau proffesiynol neu gynorthwyol eraill
  • Y rhai sydd am wella eu cydberthnasau proffesiynol a phersonol fel rhan o ddatblygiad personol

Gallai'r cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth neu gynyddu cyflogadwyedd i'r rhai sydd mewn rôl lle maent yn cefnogi eraill mewn e.e. gwaith iechyd a gofal cymdeithasol, addysgu a dysgu, eiriolaeth a chyfryngu, cymorth a gwaith prosiect, rolau cynorthwyol eraill.

Mae hefyd angen cwblhau arholiad allanol wrth gwblhau'r cymhwyster CPCAB.

Gellir cwblhau'r cyrsiau CPCAB ar-lein ac mae'r cyrsiau Agored i'w cwblhau wyneb-yn-wyneb.

Mae’r cwrs Agored yn ymdrin â rhai agweddau ar wybodaeth ddamcaniaethol ond mae'n canolbwyntio'n bennaf ar sgiliau cyfathrebu ymarferol. Mae'r cwrs hefyd yn edrych ar ddulliau moesegol a sut y rhoddir adborth.

A allaf wneud CPCAB L3 os byddaf yn gwneud Agored Lefel 2
Ddim fel arfer, er y gall fod yn bosibl yn ddibynnol ar hyfforddiant a phrofiad blaenorol. Mae'n rhaid eich bod wedi cwblhau 75 awr o hyfforddiant cwnsela er mwyn dechrau ar CPCAB Lefel 3 neu 30 awr o brofiad cwnsela y gellir ei dystiolaethu.

Rwy'n 18 oed ond byddaf yn 19 oed hanner ffordd drwy'r cwrs.
Mae angen i chi fod yn 19 oed pan fydd y cwrs yn dechrau ar gyfer y dosbarthiadau Agored a gynhelir ar y safle. Gallwch ddechrau cwrs ar-lein Lefel 2 CPCAB yn 18 oed.

Mae gen i ddiddordeb mewn mynychu’r cwrs gyda fy ffrind/partner/perthynas/priod, a all y ddau ohonom fynychu?
Gall peth o'r cynnwys fod braidd yn bersonol. Felly, byddem yn argymell eich bod yn dewis sesiwn cwrs gwahanol ac yn mynychu ar wahân, oherwydd efallai y cewch mwy o fudd o'r cwrs drwy fynychu sesiynau gwahanol i'ch gilydd.

Ar gyfer y cwrs L2 Agored, faint o waith fydd angen i mi ei wneud y tu allan i'r cwrs?
Disgwylir i ddysgwyr gadw dyddlyfr myfyriol yn wythnosol a chwblhau llyfr gwaith. Mae hyn tua 2-3 awr o astudio hunangyfeiriedig yr wythnos.

Gofynion mynediad

18 oed lleiaf

Cyflwyniad

Cynlluniwyd cynnwys cyffredinol y cwrs i fod yn gyfranogol a bydd yr arddull addysgu'n adlewyrchu hynny, gan ddangos y cysylltiad rhwng theori cwnsela a sgiliau ymarferol.

Bydd y sesiynau addysgu'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu, ynghyd â chyfuniad o:

  • Darlithoedd

  • Trafodaethau

  • Gweithio mewn grwpiau bach

  • Gweithdai

  • Tiwtorialau

Dyddiad Cychwyn

Medi

Asesiad

Asesiad mewnol: portffolio'r ymgeisydd yn cael ei asesu gan y tiwtor.

ASESIAD ALLANOL: ⁠Hyfedredd (Llwyddo) / Dim Hyfedredd (Methu) - rhaid i ymgeiswyr ddangos hyfedredd yn yr asesiad allanol a mewnol i ennill y cymhwyster.

Dilyniant

Lefel 3 a 4 mewn Cwnsela

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 2