Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (Cychwyn Ionawr 2025)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn am 20 wythnos

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (Cychwyn Ionawr 2025)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddatblygu gyrfa mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai?

Mae'r rhaglen hon yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn gwasanaethau mewn lifrai e.e. gwasanaeth tân, heddlu, byddin, llynges ac ati.

Mae'r rhaglen yn briodol ar gyfer dysgwyr sy'n weithgar yn eu ffitrwydd a'u dysgu. Fe'i cynlluniwyd i'ch arfogi â'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i lwyddo mewn cyflogaeth gyfredol ac yn y dyfodol, neu symud ymlaen i gyrsiau Lefel 3.

Mae'r cwrs yn cynnwys gweithgareddau awyr agored lle cewch eich herio yn gorfforol ac yn feddyliol. Bydd hyn yn gofyn am y dillad cywir ac agwedd gadarnhaol tuag at ddatblygu'ch hun. Fe'i cyflwynir gan ddefnyddio cymysgedd o dasgau a gweithgareddau ymarferol, cysylltiedig â gwaith a damcaniaethol.

Gofynion mynediad

4 TGAU gradd A* - D, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg / Rhifedd - neu - gymhwyster Diploma Lefel 1 (MM) mewn maes galwedigaethol perthnasol ynghyd â bod wedi dangos ymrwymiad i'ch astudiaethau yn eich prif raglen a chynnydd mewn Mathemateg a Saesneg.

Cyflwyniad

  • Gweithgareddau ymarferol ac awyr agored
  • Trafodaeth ystafell ddosbarth
  • Darlithoedd ffurfiol
  • Siaradwyr gwadd
  • Ymchwil unigol
  • Gwaith grŵp
  • Prosiectau
  • Cefnogaeth ac adnoddau ar-lein

Asesiad

Gwaith cwrs ac asesiad ymarferol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2