Gweithgareddau Antur Awyr Agored Lefel 2 (Dechrau ym mis Ionawr)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
20 wythnos, 3 diwrnod yr wythnos
Gweithgareddau Antur Awyr Agored Lefel 2 (Dechrau ym mis Ionawr)Llawn Amser (Addysg Bellach)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae’r cymhwyster yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ymgysylltu â phrofiadau go iawn sy’n eu hannog i ddysgu a dangos chwilfrydedd trwy unedau ymarferol ac unedau theori amrywiol.
Bydd llawer o wahanol weithgareddau cyffrous ar gael i'r dysgwyr a byddant yn cymryd rhan mewn diwrnodau dysgu yn yr awyr agored gan ddatblygu sgiliau ymarferol a dod i ddeall pwysigrwydd diogelwch personol a defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol.
Bydd y dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o bynciau'n ymwneud ag iechyd fel maeth, yn ogystal â datblygu sgiliau arwain a gwaith tîm trwy gynllunio ac arwain gweithgareddau. Bydd cyfle hefyd i gwblhau gwobr Dug Caeredin.
Gofynion mynediad
4 TGAU gradd D neu uwch. Rhaid i'r rhain gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf neu Saesneg a Mathemateg / Rhifedd
NEU os ydych chi'n symud o gwrs Lefel 1 dylech feddu ar gymhwyster Lefel 1 perthnasol, ar lefel teilyngdod
Cyflwyniad
Cymysgedd o ddysgu ymarferol (yn yr awyr agored) a dysgu damcaniaethol
Asesiad
Gwaith cwrs
Dilyniant
Gweithgareddau Awyr Agored BTEC Lefel 3
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
2