Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Cwnsela a Theori
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 flwyddyn, 30 wythnos (3 awr yr wythnos)
Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Cwnsela a TheoriRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas i:
- bobl sy'n gweithio yn y sectorau statudol, preifat a gwirfoddol ac a hoffai ddatblygu eu sgiliau cwnsela yn rhan o'u rôl broffesiynol.
- Myfyrwyr sydd am gael eu hystyried ar gyfer hyfforddiant ym maes cwnsela ac sydd am fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd/ôl-radd.
Cynhelir y cwrs yng nghyd-destun sefyllfaoedd gwaith go iawn, ac edrychir ar agweddau ar wrando empathig, yn ogystal ag ar rôl agweddau, rhagfarnau a gwerthoedd a allai helpu neu lesteirio'r defnydd o sgiliau cwnsela. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sefydlu perthynas therapiwtig.
Cewch gyfle i nodi, defnyddio a gwerthuso amrediad o sgiliau cwnsela. Yn yr uned, cewch eich annog i fod yn ymwybodol o derfynau eich rôl broffesiynol a phryd y mae'n well cyfeirio rhywun at unigolyn/asiantaeth arall.
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ffoniwch 01492 546 666 est. 1729 neu e-bost counsellingapplications@gllm.ac.uk
Cwestiynau Cyffredin Cwnsela – Lefel 3
Sawl wythnos yw'r cyrsiau?
Mae'r cyrsiau ar y safle a'r rhai ar-lein yn 30 wythnos academaidd o hyd.
Faint mae Lefel 3 yn costio?
Gall prisiau newid bob mis Medi ond i roi syniad i chi, y prisiau ym mis Medi 2024 oedd:
- Tystysgrif Lefel 3 Agored mewn Sgiliau a Theori Cwnsela - £679
- Tystysgrif Lefel 3 CPCAB mewn Astudiaethau Cwnsela - £829
A allaf gymryd rhan yn y dosbarthiadau ar-lein?
Darperir cyrsiau Agored ar y safle ac ni ellir eu cwblhau ar-lein. Darperir cyrsiau CPCAB yn gyfan gwbl ar-lein.
Pryd mae'r cwrs yn dechrau, hynny yw, ym mis Medi ac/neu ym mis Ionawr?
Mae dyddiadau dechrau yn amrywio ar gyfer ein cyrsiau gwahanol yn dibynnu ar y galw.
Fodd bynnag, fel arfer bydd cwrs Lefel 3 Agored yn dechrau ym mis Medi a mis Ionawr, ac fel arfer cynigir Lefel 3 CPCAB ym mis Medi yn unig.
Ar ba ddiwrnod/amser mae'r cwrs?
Mae'r diwrnod yn amrywio ar gyfer pob cwrs ond cynhelir y cyrsiau gyda'r nos fel arfer rhwng 6pm a 9pm.
A allaf dalu mewn rhandaliadau?
Gallwch, bydd angen i chi dalu blaendal o 20% o leiaf ac yna cytunir ar randaliadau gyda’n Hadran Gyllid sydd fel arfer yn:
- 8 rhandaliad ar gyfer ffioedd dysgu dros £500.
Bydd gofyn i chi sefydlu archeb sefydlog gyda'ch banc os byddwch yn talu mewn rhandaliadau.
Pryd y gallaf weithio fel Cwnselydd
Ar ôl cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Cwnsela neu BSc Cwnsela
Beth yw'r llwybr gorau i gymhwyso yn Gwnselydd cymwys
Cwblhau Lefel 2, Lefel 3 a Thystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Cwnsela neu cwblhau'r FSc/BSc mewn Cwnsela.
A oes rhaid i mi gwblhau Lefel 2?Gallwch dde
wis dechrau gyda’r FSc mewn Cwnsela ond os dewiswch astudio drwy’r llwybr Agored neu CPCAB gofynnwn i bawb gwblhau Lefel 2 gan ei fod yn sefydlu'r lefel dysgu sylfaenol ac yn llwybr dilyniant. Yr unig eithriad fyddai os oes gennych o leiaf 30 awr o brofiad cwnsela y gellir ei dystiolaethu.
A allwch chi roi rhagor o wybodaeth i mi am y lleoliad?
Bydd gofyn i chi wneud lleoliad am 2 awr yr wythnos wrth gwblhau lefel 3. Pan ar leoliad, bydd angen i chi allu ymarfer y sgiliau rydych chi'n eu dysgu e.e. gwrando gweithredol, aralleirio, crynhoi.
A ydych yn rhoi arweiniad ar ddod o hyd i leoliad addas ar gyfer cwblhau'r oriau yn ystod Lefel 3?
Gallwn gynnig rhai awgrymiadau. Disgwylir i fyfyrwyr gysylltu â lleoliadau eu hunain a chadarnhau trefniadau.
A allaf wneud CPCAB Lefel 3 os byddaf yn gwneud Agored Lefel 2?
Ddim fel arfer, er y gall fod yn bosibl yn ddibynnol ar hyfforddiant a phrofiad blaenorol. Mae'n rhaid eich bod wedi cwblhau 75 awr o hyfforddiant cwnsela er mwyn dechrau ar Lefel 3 CPCAB neu 30 awr o brofiad cwnsela y gellir ei dystiolaethu.
A yw naill ai Tystysgrif CPCAB Lefel 3 mewn Astudiaethau Cwnsela neu Dystysgrif Lefel 3 Agored mewn Sgiliau Cwnsela a chyrsiau Theori wedi'u hachredu gan BACP?
Na, nid yw'n ofyniad ar Lefel 3. Mae'r ddau gwrs yn bodloni safonau BACP o ran oriau hyfforddi y mae'r BACP eu hangen wrth wneud cais i fod yn aelod.
Rwy'n 18 oed ond byddaf yn 19 oed hanner ffordd drwy'r cwrs.
Mae angen i chi fod yn 19 oed pan fydd y cwrs yn dechrau ar gyfer y dosbarthiadau Agored a gynhelir ar y safle. Gallwch ddechrau CPCAB lefel 3 yn 18 oed os oes gennych yr oriau/profiad dysgu dan arweiniad gofynnol.
Mae gen i ddiddordeb mewn mynychu’r cwrs gyda fy ffrind/partner/perthynas/priod, a all y ddau ohonom fynychu?
Gall peth o'r cynnwys fod braidd yn bersonol. Felly, byddem yn argymell eich bod yn dewis sesiwn cwrs gwahanol ac yn mynychu ar wahân, oherwydd efallai y cewch mwy o fudd o'r cwrs drwy fynychu sesiynau gwahanol i'ch gilydd.
A allaf fynd yn syth i Lefel 3?
Gofynnwn i ddysgwyr gwblhau Lefel 2 yn gyntaf oni bai eu bod naill ai wedi:
- cwblhau cwrs lefel 2 mewn cwnsela gydag o leiaf 45 awr o hyfforddiant, neu
- cwblhau 30 awr o brofiad cwnsela y gellir ei brofi ar gyfer Lefel 3 Agored, neu
- cwblhau o leiaf 75 awr o hyfforddiant mewn sgiliau cwnsela a theori, neu
- cwblhau 30 awr o brofiad cwnsela y gellir ei dystiolaethu ar gyfer CPCAB Lefel 3.
Gofynion mynediad
Bydd gofyn i chi fod wedi dilyn cwrs Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela Sylfaenol (neu gwrs cyfatebol) a bod yn gweithio mewn amgylchedd lle cewch gyfle i arfer eich sgiliau cwnsela am leiafswm o 2 awr yr wythnos (gall hwn fod yn lleoliad gwirfoddol).
Dylai darpar ymgeiswyr ddeall nad yw'r cymwyster hwn yn addas i rai sy'n wynebu anawsterau emosiynol ar hyn o bryd. Ar y cwrs, bydd gofyn i ddysgwyr arfer sgiliau a fydd yn golygu datgelu cryn dipyn o wybodaeth bersonol, ymgymryd â gweithgareddau datblygiad personol cysylltiedig, ac adfyfyrio ar eu perfformiad personol. Yn y cyfweliad, gofynnir i ddysgwyr gadarnhau eu bod yn deall yr agwedd hon ar y rhaglen, o ran y cynnwys a'r ymroddiad sy'n angenrheidiol i gwblhau'r cwrs.
Cyflwyniad
Cynlluniwyd cynnwys cyffredinol y cwrs i fod yn gyfranogol a bydd yr arddull addysgu'n adlewyrchu hynny, gan ddangos y cysylltiad rhwng theori cwnsela a sgiliau ymarferol.
Bydd y sesiynau addysgu'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu, ynghyd â chyfuniad o:
- Darlithoedd
- Trafodaethau
- Gweithio mewn grwpiau bach
- Gweithdai
- Sesiynau tiwtora
Dyddiad Cychwyn
Medi a Ionawr
Asesiad
Cewch eich asesu'n barhaus drwy gyfrwng adborth personol ac adborth gan gymheiriaid a thiwtoriaid.
Asesir y modiwlau drwy gyfrwng gwaith cwrs.
Gall aseiniadau gynnwys traethodau, cyflwyniadau, llyfrau gwaith, dyddlyfrau adfyfyriol, fideos ac ati.
Dilyniant
Gallech fynd ymlaen i ddilyn mwy o gyrsiau cynghori gyda Grŵp Llandrillo Menai, megis:
- Tystysgrif Addysg Uwch mewn Cwnsela
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Defnyddio Sgiliau a Dulliau Therapiwtig i Gefnogi Lles Pobl Eraill
- Gradd Sylfaen (FdA) Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghyd â llwybrau ychwanegol arbenigol
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
3
Dwyieithog:
n/a