Tystysgrif Level 3 mewn Gweithrediadau Polymer GQA PAA\VQ-SET
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Employers site
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 mis
Tystysgrif Level 3 mewn Gweithrediadau Polymer GQA PAA\VQ-SETPrentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Os ydych chi am ennill cydnabyddiaeth am eich sgiliau polymer presennol neu ddysgu sgiliau prosesu polymer newydd, yna bydd y cymhwyster hwn yn cydnabod sgiliau a gwybodaeth unigolion sy'n gweithio yn y sectorau Polymer a Pholymer Cyfansawdd.
Mae'r cymhwyster yn cynnwys un uned Orfodol sy'n trafod Iechyd a Diogelwch ac yna gall y dysgwyr ddewis o blith unedau dewisol ar ddechrau, cynnal a chau proses gynhyrchu ar beiriant, archwilio a gorffen cynhyrchion, cynnal profion a samplu a thasgau eraill a gyflawnir yn y Diwydiant Polymer.
Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Gweithrediadau Polymer yn ymdrin ag egwyddorion iechyd a diogelwch HSG65 a gofynion amgylcheddol ISO14001, gwneud diagnosis ac ymdrin â phroblemau prosesu, techneg chwe phwynt, ffurfweddu systemau prosesu ac optimeiddio gweithrediadau prosesu, a all gynnwys cynnal a chadw peiriannau prosesu polymer yn awtonomaidd. Yna gall dysgwyr ddewis o blith Unedau Dewisol sy'n ymdrin â gwasanaethu arferol, gweithrediadau samplu cymhleth, darparu cymorth technegol a chynllunio gweithgareddau prosesu polymer.
Mae'n addas i weithredwyr proses sy'n gweithio mewn sefydliadau sy'n rhoi gweithdrefnau iddynt weithio o'u mewn a meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau a gweithredu. Gall gweithrediadau'r broses ymwneud â chynhyrchu parhaus neu gynhyrchu swp a gall fod yn weithrediad sylfaenol neu eilaidd.
Mae'r grwpiau o unedau dewisol yn gwneud y cymhwyster yn addas ar gyfer ystod eang o swyddi yn y sector prosesu polymer.
Swyddi • Gosodwyr / Gweithredwyr Prosesu • Arolygwyr Rheoli Ansawdd • Gweithredwyr Gorffen a Chydosod • Gweithredwyr / Technegwyr Prosesu.
Gofynion mynediad
Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol
• Cymhelliant i lwyddo mewn diwydiant
• Ymwybyddiaeth o ofynion y Brentisiaeth
• Parodrwydd i gydymffurfio â thelerau ac amodau cyflogaeth y cyflogwr/darparwr hyfforddiant
• Y gallu i gymhwyso dysgu yn y gweithle
• Parodrwydd i weithio gan roi sylw dyledus i'ch Iechyd a Diogelwch eich hun ac eraill
• Cyfathrebu effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
Bydd angen nawdd cyflogwr arnoch i'ch galluogi i gwblhau'r elfen tystiolaeth o'r gweithle yn y cymhwyster.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy sesiynau addysgu a sesiynau ymarferol.
- Cyflwyniadau
- Dysgu yn y dosbarth
- Google Classroom (amgylchedd dysgu rhithwir)
- Sesiynau ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig i ddatblygu portffolio o dystiolaeth
- Mae’r fframwaith yn cynnwys y Sgiliau Hanfodol (Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, TGCh/Llythrennedd Digidol) sydd eu hangen ar gyfer prentisiaeth mewn Gweithrediadau Prosesu Polymer.
Asesiad
Mae'r hyfforddi a'r asesu wedi eu cynnwys yng nghorff y cwrs.
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Portffolios gwaith
- Arddangos sgiliau ymarferol
Dilyniant
You could proceed onto a number of courses at Grŵp Llandrillo Menai, including:
Diploma Level 4 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
Oes