Tystysgrif Lefel 4 mewn Defnyddio Sgiliau a Dulliau Therapiwtig i Gefnogi Lles Pobl Eraill
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 flwyddyn academaidd sy'n dechrau ym mis Medi ac ym mis Ionawr. 30 wythnos, un pnawn yr wythnos am 3 awr fel arfer.
Tystysgrif Lefel 4 mewn Defnyddio Sgiliau a Dulliau Therapiwtig i Gefnogi Lles Pobl EraillRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn cefnogi strategaeth 'Meddwl yn Gadarnhaol: Iechyd a Lles Emosiynol' Llywodraeth Cymru ac yn codi ymwybyddiaeth am les emosiynol ac iechyd meddwl. Gall fod yn addas i:
- Bobl sy'n gweithio yn y sectorau statudol, preifat a gwirfoddol ac a hoffai ddatblygu a gwella eu gallu i helpu drwy ddefnyddio sgiliau therapiwtig ac ymarfer ar sail tystiolaeth yn eu rôl broffesiynol. Y bwriad yw gwella eu cyflogadwyedd ar gyfer swyddi ym maes gofal cymdeithasol, gofal iechyd, iechyd meddwl, lles emosiynol, addysg a sgiliau bywyd.
- Myfyrwyr sy'n awyddus i gael eu hystyried ar gyfer hyfforddiant perthnasol pellach ac sydd am fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd/ôl-radd.
Bydd y cwrs yn edrych ar ddamcaniaethau ymddygiad a dulliau o helpu pobl eraill, ac ar sut i gefnogi pobl sy'n wynebu anawsterau emosiynol a phroblemau iechyd meddwl. Bydd hefyd yn adolygu ymarfer ar sail tystiolaeth o ran rhoi gweithgareddau therapiwtig ar waith mewn grwpiau, darparu hyfforddiant sgiliau bywyd ac adeiladu gwytnwch a meddylfryd cadarnhaol mewn pobl eraill.
Gofynion mynediad
Lefel 2 mewn Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela Sylfaenol (neu gymhwyster cyfwerth) a Lefel 3 mewn Sgiliau a Theori Cwnsela neu gymhwyster a thystysgrif gydnabyddedig mewn maes perthnasol ar lefel 3 neu uwch. Dylai hyn fod mewn swydd broffesiynol lle'r ydych yn darparu gofal neu gymorth, e.e. Nyrsio, Therapi, Llesiant, Hyfforddiant, Iechyd a Gofal, neu Ofal Plant. Yn ystod y cwrs bydd angen i chi fod yn gweithio neu'n gwirfoddoli mewn gweithle neu leoliad gwirfoddol lle cewch gyfle i ymarfer a defnyddio eich sgiliau a'ch dulliau therapiwtig. Nid yw'r cwrs hwn yn addas i'r sawl sy'n wynebu anawsterau emosiynol. Ar y cwrs, bydd gofyn i ddysgwyr arfer sgiliau therapiwtig a all olygu datgelu cryn dipyn o wybodaeth bersonol, ymgymryd â gweithgareddau datblygiad personol cysylltiedig, ac adfyfyrio ar eu perfformiad personol. Cyfweliad llwyddiannus. Geirda academaidd neu broffesiynol sy'n gymeradwy a chyfredol (h.y. o fewn cyfnod o 18 mis i ddechrau'r cwrs).
Cyflwyniad
Cynlluniwyd cynnwys cyffredinol y cwrs i fod yn gyfranogol a bydd yr arddull addysgu'n adlewyrchu hynny, gan ddangos y cysylltiad rhwng damcaniaethau therapiwtig a sgiliau ymarferol.
Bydd y sesiynau addysgu'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu, ynghyd â chyfuniad o:
- Ddarlithoedd
- Trafodaethau
- Gweithio mewn grwpiau bach
- Gweithdai
- Tiwtorialau
Y modiwlau a addysgir ac a asesir yw:
- Galluogi newid mewn ymddygiad
- Meithrin perthynas therapiwtig er mwyn gwella
- Newidiadau bywyd
- Deall iechyd meddwl
- Gweithgareddau therapiwtig mewn grwpiau
Asesiad
Cewch eich asesu'n barhaus drwy gyfrwng adborth personol, adborth gan gymheiriaid a thiwtoriaid a thrwy asesiadau.
Asesir y modiwlau drwy gyfrwng gwaith cwrs a asesir yn fewnol.
Gall yr aseiniadau gynnwys traethodau, cyflwyniadau, llyfrau gwaith, dyddlyfrau adfyfyriol a fideos.
Dilyniant
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau a Theori Cwnsela
- Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 ym maes Gofal Cymdeithasol
- Gradd Sylfaen (FdA) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Amrywiaeth o swyddi proffesiynol sy'n gysylltiedig â chefnogi lles pobl eraill.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dwyieithog:
n/aIechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant