Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn caniatáu y defnydd o gwcis.

By using our website, you consent to the use of cookies.

Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Cynhyrchu Technegol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Up to 15 hours/week for 34 weeks. £670.

Cofrestrwch
×

Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Cynhyrchu Technegol

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi brofiad yn y celfyddydau cynhyrchu, ac eisiau symud i’r cam nesaf? Mae hwn yn gwrs ymarferol, ar lefel broffesiynol a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgil set bresennol, ac yn bwysicaf oll bydd yn rhoi cyfleoedd i chi gymhwyso ac arddangos y sgiliau hyn yn ystod y flwyddyn. Bydd profiad ymarferol helaeth wedi’i adeiladu mewn i’r cwrs o’r cychwyn cyntaf. Ar ddiwedd y cwrs bydd gennych y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i weithio’n hyderus yn y diwydiant celfyddydau cynhyrchu, neu symud ymlaen i AU.

Gofynion mynediad

  • Cymhwyster lefel 3 perthnasol neu profiad ymarferol helaeth yn y maes creadigol.
  • Cyfweliad llwyddianus

Cyflwyniad

Mae hwn yn gwrs ymarferol lle mae sgiliau proffesiynol o fewn y celfyddydau cynhyrchu yn cael eu datblygu ac yna eu cymhwyso. Mae 3 elfen i’r cwrs:

  • Sefydlu egwyddorion arfer technegol a chynhyrchu
  • Arfer proffesiynol cymhwysol
  • Prosiect Datblygu Proffesiynol

Asesiad

-

Dilyniant

Mae hon yn gwrs blwyddyn i gyflogaeth neu ar gyfer dilyniant pellach i AU.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 4