CPCAB Lefel 5 Cwnsela Plant a Phobl Ifanc
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
6 mis. Bydd addysgu yn wythnosol a bydd yn cynnwys wythnos yn y coleg ac wythnos ar-lein.
CPCAB Lefel 5 Cwnsela Plant a Phobl IfancRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi ymgeiswyr llwyddiannus i weithio fel cwnselwyr gyda'r grŵp oedran hwn mewn amrywiaeth o swyddi a chyfleoedd gyrfa sy'n cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i:
- Cwnselydd mewn Ysgol neu Goleg
- Cwnselydd mewn asiantaeth neu sefydliad sy'n arbenigo mewn gwaith cwnsela gyda phlant a phobl ifanc
- Gweithio fel cwnselydd preifat mewn sefydliad allanol fel ysgol, clwb ieuenctid, lleoliad lles/iechyd meddwl
- Cwnselydd oedolion mewn sefydliad annibynnol eisiau ymestyn ystod eu gwaith i weithio gyda'r grŵp oedran hwn
- Gweithiwr ieuenctid yn y gymuned
- Gweithiwr maes gyda phobl ifanc
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ffoniwch 01492 546 666 est. 1729 neu e-bost counsellingapplications@gllm.ac.uk
Gofynion mynediad
Diploma Lefel 4 CPCAB mewn Cwnsela Therapiwtig, Tystysgrif Addysg Bellach Lefel 4 mewn Cwnsela neu Ddysgu Blaenorol (RPL) cyfwerth.
Yn Gwnselydd cyflogedig neu'n gwnselydd sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol.
Mynediad at gleientiaid er mwyn cwblhau lleiafswm o 60 awr o waith cleient yn gweithio gyda phobl Ifanc a Phlant
Aelod o gorff Cwnsela proffesiynol a bod â'ch yswiriant indemniad proffesiynol eich hun.
Mynediad i oruchwyliaeth Cwnsela Plant misol.
Cyflwyniad
Cynlluniwyd cynnwys cyffredinol y cwrs i fod yn gyfranogol a bydd yr arddull addysgu'n adlewyrchu hynny, gan ddangos y cysylltiad rhwng theori cwnsela a sgiliau ymarferol.
Bydd y sesiynau addysgu'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu, ynghyd â chyfuniad o:
- Darlithoedd
- Trafodaethau
- Gweithio mewn grwpiau bach
- Gweithdai
- Tiwtorialau
Asesiad
Asesiad mewnol: portffolio'r ymgeisydd yn cael ei asesu gan y tiwtor.
Asesiad allanol: astudiaeth achos sy'n cael ei asesu'n allanol (3,000-3,500 gair)
Hyfedrusrwydd (Llwyddo) / Diffyg Hyfedrusrwydd (Methu) - rhaid i ymgeiswyr ddangos hyfedrusrwydd yn yr asesiad allanol a mewnol i gael y cymhwyster.
Dilyniant
- Cwrs CPCAB Lefel 6 mewn Goruchwylio ym maes Cwnsela Therapiwtig.
- Gradd Sylfaen mewn Cwnsela.
- Gradd BA (Anrh) mewn Cwnsela
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
5