Dadansoddi Perfformiad – Lefel 5
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Dydd Gwener 10-11:30am
17/1/2025 to 16/5/2025
×Dadansoddi Perfformiad – Lefel 5
Dadansoddi Perfformiad – Lefel 5Rhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
kehoe1s@gllm.ac.uk
Disgrifiad o'r Cwrs
Byddwch yn dysgu am:
- Swyddogaeth dadansoddi perfformiad yn y broses hyfforddi
- Systemau dadansoddi nodiannol a chyfrifiadurol
- Effeithlonrwydd systemau dadansoddi
- Dulliau o roi adborth
Meistrolwch y grefft o ddadansoddi perfformiad! Bydd y modiwl yn eich dysgu am ddulliau blaengar o werthuso perfformiad mewn chwaraeon a sut i'w rhoi ar waith mewn amrywiol gyd-destunau, gan ddatblygu eich sgiliau dadansoddi ymarferol a'ch gallu i roi adborth i athletwyr.
I bwy mae'r modiwl hwn yn addas:
- Darpar Hyfforddwyr - Y rhai sydd am ychwanegu dadansoddi perfformiad i'w strategaethau hyfforddi er mwyn gwella datblygiad athletwyr
- Dadansoddwyr Perfformiad - Myfyrwyr sydd â diddordeb mewn arbenigo mewn dadansoddi perfformiad a dysgu sut i ddefnyddio systemau nodiannol a chyfrifiadurol
- Staff sy'n Cefnogi Athletwyr - Gweithwyr proffesiynol sy'n canolbwyntio ar roi adborth ac optimeiddio perfformiad trwy gynnal dadansoddiadau manwl o effeithiolrwydd
- Pobl sydd â Diddordeb mewn Technoleg Chwaraeon - Dysgwyr sy'n awyddus i ddefnyddio technoleg mewn chwaraeon i gofnodi eu perfformiad a chael adborth
Gofynion mynediad
Dylech allu dangos eich gwybodaeth o'r hyn a ddysgwyd ar lefel 4. I drafod eich addasrwydd ar gyfer y modiwl hwn, cysylltwch â s.kehoe@gllm.ac.uk
Cyflwyniad
Cyflwyniad, gwaith grŵp, astudiaeth annibynnol
Asesiad
Gwaith cwrs ac aseiniad
Dilyniant
Cyrsiau eraill.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
5