Ffisioleg Uwch – Lefel 6
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Dydd Mercher 9am - 1pm
8/1/2025 - 14/5/2025
×Ffisioleg Uwch – Lefel 6
Ffisioleg Uwch – Lefel 6Rhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
kehoe1s@gllm.ac.uk
Disgrifiad o'r Cwrs
Deall y wyddoniaeth y tu ôl i ludded, mynd i'r afael ag ymchwil sy'n gwrthdaro ym maes ymarfer corff, a gwella eich sgiliau hyfforddi trwy eu rhoi ar waith yn y byd go iawn
Byddwch yn dysgu am:
- Ludded:
- Mecanweithiau canolog ac ymylol
- Model Llywodraethwr Canolog
- Model seicobiolegol
- Newidiadau ffisiolegol a thechnegau ymarfer corff:
- Datblygu pŵer
- Hyfforddiant hypertroffedd
- Atal anafiadau - llwytho ecsentrig
- RFD a newidiadau niwrolegol
- Hyfforddiant cyflymder a newid cyfeiriad
I bwy mae'r modiwl hwn yn addas:
- Darpar Athletwyr - Unigolion sydd am optimeiddio eu perfformiad trwy roi'r ymchwil ddiweddaraf ar waith
- Pobl sydd â Diddordeb mewn Ffitrwydd - Yn rhai sy'n awyddus i wybod sut i wneud y defnydd gorau o ddygnwch a/neu bŵer cyhyrol
- Hyfforddwyr - Gweithwyr proffesiynol sy'n awyddus i ehangu eu gwybodaeth er mwyn gallu rhoi arweiniad gwell i athletwyr
- Myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon/Myfyrwyr Cryfder a Chyflyru - Dysgwyr sy'n awyddus i ehangu eu gwybodaeth trwy feithrin dealltwriaeth feirniadol o'r ymchwil ddiweddaraf a sut mae'n cael ei rhoi ar waith yn ymarferol
Gofynion mynediad
Dylech allu dangos eich gwybodaeth o'r hyn a ddysgwyd ar lefel 5. I drafod eich addasrwydd ar gyfer y modiwl hwn, cysylltwch â s.kehoe@gllm.ac.uk
Cyflwyniad
- Darlithoedd
- Seminarau a gweithdai grŵp
- Sesiynau ymarferol yn y gampfa
- Arddangosiadau o hyfforddiant cryfder a chyflyru
Asesiad
Gwaith cwrs ac aseiniad
Dilyniant
Cyrsiau eraill.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
6