Tystysgrif Lefel 2 mewn Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
O fewn 12 mis
Tystysgrif Lefel 2 mewn Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau GwybodaethRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Staff sydd eisoes yn gweithio yn y sector llyfrgelloedd, archifau neu reoli cofnodion ac sy'n dymuno ennyn cymhwyster i brofi eu bod yn gymwys i wneud y gwaith.
Dyluniwyd y dystysgrif Lefel 2 fel man cychwyn ar gyfer staff sy'n gymharol newydd i'r sector llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth ac/neu i astudio ar Lefel 2.
Gofynion mynediad
Rhaid i chi fod yn gweithio yn y sector llyfrgelloedd, archifau neu reoli cofnodion.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs yn y gweithle. Ceir cymorth ar-lein hefyd drwy Moodle (Amgylchedd Dysgu Rhithwir).
Bydd yn rhaid i chi gwblhau wyth uned:
- Creu a chynnal amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- Helpu defnyddwyr i gael gafael ar wybodaeth a/neu ddeunydd
- Rhoi gwybodaeth a/neu ddeunydd
- Lleoli a dychwelyd gwybodaeth a/neu ddeunydd
- Gwarchod, diogelu a chopïo gwybodaeth a/neu ddeunydd
- Cefnogi defnyddwyr i ddefnyddio adnoddau digidol
- Deall trefn llyfrgelloedd, archifau neu wasanaethau gwybodaeth
- Deall amgylchedd llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth
Asesiad
Asesiad yn seiliedig ar waith/cymhwysedd. Caiff yr unedau eu hasesu drwy gyfrwng portffolio o dystiolaeth a gasglwyd o waith y dysgwr.
Dilyniant
- Diploma Lefel 3 mewn Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth
Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau tystysgrif (Lefel 2) yn gallu cario 21 o gredydau drosodd i'r diploma (Lefel 3).
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth
Dwyieithog:
n/a