Prentisiaeth - Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 mis
Prentisiaeth - Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth Lefel 3Prentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Dyluniwyd y Diploma Lefel 3 ym maes Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth ar gyfer staff sy'n gweithio mewn llyfrgell neu uned wybodaeth.
Mae'r fframwaith Prentisiaeth yn gofyn am gwblhau nifer o gydrannau'n llwyddiannus, gan gynnwys cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, sy'n cael ei asesu'n annibynnol a'i ardystio.
Bydd gan y sawl sy'n cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus y wybodaeth a'r sgiliau sy'n berthnasol i'w swydd, yn cynnwys y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i weithio’n effeithiol yn y sector Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth. Mae’r fframwaith yn addas ar gyfer amrywiaeth o swyddi gan gynnwys:
- Cynorthwyydd Archif
- Cynorthwyydd Cofnodion
- Cynorthwyydd Gwasanaeth i Gwsmeriaid
- Cynorthwyydd Gwybodaeth
- Cynorthwyydd Llyfrgell
- Cynorthwyydd Cymorth Dysgu
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad yn y diwydiant llyfrgelloedd yn ddymunol.
- Rhaid i bob prentis gael cyflogwr a all fodloni'r meini prawf NVQ.
- Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs yn y gweithle. Mae cymorth ar-lein ar gael hefyd trwy system e-bortffolio Onefile.
Bydd yn rhaid i chi gwblhau pedair uned orfodol ac amrywiaeth o unedau dewisol (hyd at 27 credyd):
- Dulliau trefnu gwybodaeth a/neu ddeunydd
- Cefnogi defnyddwyr i ddefnyddio adnoddau digidol
- Creu a chynnal amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- Helpu defnyddwyr i gyrchu gwybodaeth a/neu ddeunydd
- Hyrwyddo Gwasanaethau Llyfrgell, Archif a Gwybodaeth
- Darparu gweithgareddau cynefino a chyfarwyddo i ddefnyddwyr
- Ymgysylltu â'r gymuned ehangach
- Hanes Teulu
- Gwybodaeth am iechyd
- Astudiaethau Lleol
- Paleograffeg
- Datblygiad Darllenwyr
- Dyrannu a gwirio gwaith mewn tîm
- Meithrin perthynas weithio gynhyrchiol gyda chydweithwyr
- Rhoi gwybodaeth a/neu ddeunydd
- Arwain tîm
- Lleoli a rhoi gwybodaeth a/neu ddeunydd yn ei ôl
- Rheoli eich adnoddau a'ch datblygiad proffesiynol eich hun
- Gwarchod, diogelu a chopïo gwybodaeth a/neu ddeunydd
- Deall amgylchedd Gwasanaethau Llyfrgell, Archif a Gwybodaeth
- Deall trefn Gwasanaethau Llyfrgell, Archif a Gwybodaeth
Mae modd trosglwyddo 21 o gredydau o dystysgrif Lefel 2 a'u defnyddio tuag at y cymhwyster hwn.
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwi yn y gwaith
- Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
Dilyniant
Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs gallech fynd ymlaen i astudio:
- Prentisiaeth Lefel 5 ym maes Treftadaeth Ddiwylliannol
- Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth
Dwyieithog:
Darpariaeth dwy-ieithog ar gael