CIST-Llangefni
Dydd Mawrth, 14/01/2025
IOSH Rheoli'n Ddiogel Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, CIST-Llangefni, Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai, CaMDA Dolgellau
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 diwrnod
×IOSH Rheoli'n Ddiogel Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
IOSH Rheoli'n Ddiogel Hyfforddiant Iechyd a DiogelwchCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae Rheoli’n Ddiogel IOSH yn berthnasol i bob diwydiant a sefydliad.
Mae'r cwrs achrededig hwn gan IOSH wedi'i gynllunio ar gyfer pobl ar unrhyw lefel, mewn unrhyw sector. Mae'r cwrs hwn ynglŷn â rhoi sylfaen i bawb mewn hanfodion iechyd a diogelwch.
Rhaglen Cwrs:
Bydd Rheoli'n Ddiogel IOSH yn ymdrin â'r canlynol:
- Cyflwyno gweithio'n ddiogel
- Diffinio perygl a risg
- Nodi peryglon cyffredin
- Gwella perfformiad diogelwch
Erbyn diwedd y cwrs hyfforddi, bydd gan y myfyriwr:
- Ddealltwriaeth gliriach ynglŷn â nodi ac ymdrin â risgiau a pheryglon galwedigaethol, gallu gwella diogelwch i bob golwg yn y gweithle
- Deall sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth i'w llesiant, yn ogystal â llesiant eu tîm, drwy ymddygiadau beunyddiol
- Bod yn fwy ymwybodol o gyfrifoldebau a ddeddfwyd i'r cwmnïau
- Meddu ar fwy o ddealltwriaeth ynglŷn â sut i leihau effaith amgylcheddol
Dyfernir Tystysgrif Rheoli’n Ddiogel IOSH i fyfyrwyr llwyddiannus.
Dyddiadau Cwrs
CIST-Llangefni
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
14/01/2025 | 08:30 | Dydd Mawrth, Dydd Iau | 21.00 | 1 | £375 | 4 / 12 | D0022303 |
Gofynion mynediad
- Mae angen gwybodaeth sylfaenol am Iechyd a Diogelwch i ddilyn y cwrs hwn.
Cyflwyniad
- Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth
Asesiad
Ar ddiwedd y sesiwn, bydd rhaid i chi:
- sefyll arholiad 22 cwestiwn
- gyflwyno prosiect ar asesiad risg a gynhaliwyd yn eich gweithle
I dderbyn tystysgrif, rhaid llwyddo yn nwy elfen yr asesiad.
Dilyniant
Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Iechyd a Diogelwch
Dwyieithog: