Prentisiaeth - Peirianneg Forol Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    24 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Peirianneg Forol Lefel 3

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith prentisiaeth yn un a gytunwyd yn genedlaethol, ac mae'n darparu llwybr seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant morol drwy ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau a gwybodaeth. Y math o swyddi sy'n cael eu cynnwys yn y fframwaith morol yw Peiriannydd Mecanyddol Morol, Peiriannydd Trydanol Morol, Rigiwr, Adeiladydd Cychod a Chynorthwyydd Iard.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ.
  • Bydd angen lefel dda o fathemateg a Saesneg ar ddysgwyr
  • Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Mae'r hyfforddiant technegol yn cael ei ddarparu yn y coleg un diwrnod yr wythnos ac yn cynnwys amser mewn gweithdai ymarferol. Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant ymarferol gan y cyflogwr yn y gweithle. Fodd bynnag, bydd gofyn i ddysgwyr ddod i'r coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori yn y gweithdy.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

n/a

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 3

Dwyieithog:

n/a