Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Hafan Pwllheli
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Peirianneg Forol Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi yrfa yn gweithio ym maes trin llongau, ar y dŵr neu ar dir sych.

Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle i chi ddysgu amrywiaeth o sgiliau sy'n bwysig i'r diwydiant ar y tir, yn cynnwys adeiladu cychod, cynnal a chadw cychod a pheirianneg forol. Mae hefyd yn eich cyflwyno i ddisgyblaethau ymarferol ar y dŵr, a bydd hyfforddiant ar y môr yn elfen allweddol o'ch dysgu.

Mae'r rhaglen yn un ymarferol gyda phwyslais ar ennill sgiliau ymarferol yn y gweithdy ac ar y môr. Byddwch yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, ac yn cynnal a chadw ac yn gweithio â llongau yn y Coleg ac ar y môr.

Yn ogystal ag ennill y cymhwyster hwn byddwch yn cyflawni cyfres o raglenni byr RYA/MCA a thrwyddedau safonol y diwydiant.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu
  • Cymhwyster Lefel 1 BTEC mewn Peirianneg Forol wedi'i gwblhau i safon foddhaol, neu
  • Wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg i safon foddhaol ynghyd â phresenoldeb da, neu
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Sesiynau ymarferol yn y gweithdy a'r dosbarth
  • Gwneud prosiectau
  • Cyfnod ar y môr

Yn y Ganolfan Forol ac Amgylchedd Adeiledig werth £8.2 miliwn sydd ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, ceir adnoddau arbenigol ar gyfer y diwydiant morol a'r diwydiant adeiladu cychod. Ceir yno hefyd amrywiaeth o gyrsiau llawn amser a rhan-amser i ategu'r diwydiant hwn sy'n werth biliynau yn y Deyrnas Unedig.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Aseiniadau
  • Arholiadau
  • Gwaith rhaglen
  • Portffolios
  • Asesiad ymarferol ar y dŵr gan hyfforddwyr cymwys

Dilyniant

Gall cwblhau'r rhaglen hon arwain at nifer o ddewisiadau o ran addysg a chyflogaeth. Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Peirianneg Forol Lefel 3
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg Forol

Mae myfyrwyr llwyddiannus yn aml yn ennill lle ar gyrsiau hyfforddi a noddir yn llawn gan y diwydiant (Cynlluniau'r Llynges Fasnachol i Gadetiaid) ac yn cael gwaith fel morwyr a pheirianwyr ar bob math o wahanol longau, e.e. llongau pleser, tanceri, cychod hwylio, cychod gwaith ac iotiau.

Maent hefyd yn cael swyddi ar y lan mewn iardiau sy'n adeiladu, yn cynnal a chadw ac yn trwsio cychod.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Pwllheli