Peirianneg Forol Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Hafan Pwllheli
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1-2 flynedd
Peirianneg Forol Lefel 3Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi yrfa yn gweithio ym maes trin llongau, ar y dŵr neu ar dir sych.
Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle i chi ddysgu amrywiaeth o sgiliau sy'n bwysig i'r diwydiant ar y tir, yn cynnwys adeiladu cychod, cynnal a chadw cychod a pheirianneg forol. Mae hefyd yn eich cyflwyno i ddisgyblaethau ymarferol ar y dŵr, a bydd hyfforddiant ar y môr yn elfen allweddol o'ch dysgu.
Mae'r rhaglen yn un ymarferol gyda phwyslais ar ennill sgiliau ymarferol yn y gweithdy ac ar y môr. Byddwch yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, ac yn cynnal a chadw ac yn gweithio â llongau yn y Coleg ac ar safleoedd eraill.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Sesiynau ymarferol yn y gweithdy a'r dosbarth
- Gwneud prosiectau
- Cyfnod ar y môr
Yn y Ganolfan Forol ac Amgylchedd Adeiledig werth £8.2 miliwn sydd ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, ceir adnoddau arbenigol ar gyfer y diwydiant morol a'r diwydiant adeiladu cychod. Ceir yno hefyd amrywiaeth o gyrsiau llawn amser a rhan-amser i ategu'r diwydiant hwn sy'n werth biliynau yn y Deyrnas Unedig.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Aseiniadau
- Arholiadau
- Gwaith Rhaglen
- Portffolios
- Asesiad Ymarferol ar y dŵr gan hyfforddwyr cymwys
Dilyniant
Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith gan gynnwys, Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg Forol.
Gallech ddewis mynd ymlaen i Addysg Uwch i astudio Technoleg Forol mewn amrywiaeth o sefydliadau. Gallwch fynd ymlaen i astudio ar gwrs gradd mewn meysydd eraill yn cynnwys:
- HNC Peirianneg Gyffredinol
Ym myd gwaith, bydd y rhaglen yn caniatáu i chi weithio yn y diwydiant morol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r cynnwys swyddogaethau yn y sectorau hamdden a masnachol. Mae cyn-fyfyrwyr wedi bod o hyd i waith yn lleol ar dir sych, wedi ennill ysgoloriaethau i addysg uwch neu wedi dod o hyd i waith ar longau masnachol mawr, tynfadau, cychod gwaith, llongau ysblennydd a llongau pleser.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Pwllheli