Modylau arbenigol ar Weinydd Windows MCSA a Thechnoleg Ardystiedig Microsoft

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    MCSA: 2 flynedd

    Hyd y flwyddyn gyntaf fydd 32 wythnos, 3.5 awr yr wythnos (unai ar ddydd Mercher neu ddydd Iau), 5.30pm - 9.00yh.

    MCTS: 16 wythnos, 3.5 awr yr wythnos (unai ar ddydd Mercher neu ddydd Iau), 5.30pm - 9.00yh.

Cofrestrwch
×

Modylau arbenigol ar Weinydd Windows MCSA a Thechnoleg Ardystiedig Microsoft

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn addas i:

  • unigolion â diddordeb ac ychydig o brofiad mewn rhwydweithio
  • unigolion sy'n dymuno ffurfioli sgiliau Microsoft wrth gyflawni cymhwyster cydnabyddedig Microsoft
  • unigolion sydd eisiau gwella ar eu sgiliau Microsoft

Nid yw'r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr nad oes ganddynt wybodaeth am rwydweithio, cyfrifiaduron, na defnydd o systemau cyfrifiadurol yn y gweithle.

Mae'r rhaglen wedi'i rhannu'n fodylau 16 wythnos ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer MCSA/MCITP neu amryw o gymwysterau MCTS. Mae pob cwrs yn swyddogol - "Microsoft Official Academic Courses."

Mae'r cwrs yn cynnwys 3-4 modiwl; pob modiwl yn arwain at ardystiad Microsoft - rhai modiwlau arbenigol yn cynnwys y teitl Technoleg Ardystiedig Microsoft (MCTS) ac eraill o dan Arbenigwr Cysylltiol Atebion Ardystiedig Microsoft (MCSA).

Yn ychwanegol i ddeunydd MOAC Microsoft, bydd disgwyl i fyfyrwyr gyflwyno a llwyddo aseiniad modiwl Addysg Uwch Edexcel. Mae hyn yn ein caniatáu i gynnig cwrs sy'n trafod unedau Microsoft £1500 yn rhatach na hynny sy'n cael ei gynnig mewn sefydliadau hyfforddi masnachol.

Enghreifftiau o gynnwys y modylau:

70-410 Gosod a Ffurfweddu Gweinydd Windows yn cynnwys: ffurfweddu'r Cyfrifiadur Cyfredol, isadeiledd, Ffurfweddu System Enw Parth (DNS) ar gyfer Cyfrifiadur Cyfredol, Cynnal a Chadw amgylchedd y Cyfrifiadur Cyfredol.

http://www.microsoft.com/learning/en-gb/mcsa-windows-server-certification.aspx

70-680 Windows 7, Ffurfweddu, Gosod, Uwchraddio, Symud i Windows 7, Ffurfweddu Cysylltiad Rhwydwaith, Monitro a Chynnal Systemau sy'n rhedeg ar Windows 7, Ffurfweddu Cadw wrth Gefn ac Adferiad.

http://www.microsoft.com/learning/en/us/exam.aspx?ID=70-680andlocale=en-us#tab2

Gofynion mynediad

Dylai darpar fyfyrwyr:

  • fod yn hyfedr mewn defnyddio Cyfrifiaduron Personol gyda system weithredu Microsoft a diddordeb mewn rhwydweithio,
  • fod wedi cymhwyso i lefel priodol o arbenigedd drwy raglen Cisco CCNA neu gwrs PROCOM, neu
  • wedi cyflawni statws Gweithiwr Proffesiynol Ardystiedig Microsoft (MCP).

Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Bydd gan ddosbarthiadau strwythur o ddarlithoedd, gweithdai ac efelychiadau, a chewch eich copi personol o'r llyfryn cwrs.

Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr ddyrannu amser i weithio drwy'r deunydd cwrs gartref.

Cewch gwblhau efelychiadau o gartref drwy edrych ar e-ddeunydd ar-lein.

Bydd pob myfyriwr yn cael mynediad ar amryw fersiynau o feddalwedd Microsoft i'w gosod a'i defnyddio o gartref. Cynhelir y dosbarthiadau mewn labordy rhwydwaith pwrpasol gyda Chyfrifiaduron wedi'u cysylltu i gyfres o lwybryddion/switshis Cisco a Rheolydd Cyfrifiadur Cyfredol Windows.

Caiff y cwrs ei gefnogi gan Moodle, sef Amgylchedd Dysgu Rhithiwr y Coleg. Cewch edrych ar ddeunydd gwersi, taflenni gwybodaeth, fforymau ayyb, drwy unrhyw gysylltiad i'r Rhyngrwyd.

Bydd gan fyfyrwyr fynediad at System Feddalwedd Ar-lein sy'n caniatáu iddynt osod meddalwedd Microsoft o gartref fel rhan o'r cwrs.

Asesiad

Bydd myfyrwyr yn sefyll eu harholiadau Microsoft perthnasol i bob modiwl mewn canolfannau Pearson Vue/Prawf Prometric ar gampws Llandrillo-yn-rhos.

Bydd y coleg yn darparu dwy daleb arholiad am lwyddo'r aseiniad yn llwyddiannus.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs, gallwch barhau i ddilyn Arbenigwr Microsoft Office, Cisco CCNA neu gymwysterau MCSA/MCSE/MCTS eraill megis Gweinyddwr Menter, ar ôl trafod gyda'ch tiwtor.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 3

Dwyieithog:

n/a