Sgiliau Gweinyddu Meddygol, Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 hours per week for 20 weeks
Sgiliau Gweinyddu Meddygol, Lefel 3Rhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r uned hon wedi'i chynllunio er mwyn rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau hanfodol i fod yn weinyddwr meddygol.
Bydd yn rhoi dealltwriaeth i chi o'r gweithdrefnau gweinyddol a'r sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen i ddarparu cymorth gweinyddol effeithiol mewn amgylchedd meddygol. Byddwch yn dysgu sut i weithio fel rhan o dîm meddygol ac yn dod i ddeall sut i reoli eich amser a'ch llwyth gwaith eich hun a rheoli gwybodaeth.
Gall cymhwyster Lefel 3 mewn Gweinyddu Meddygol eich helpu i lwyddo i symud ymlaen drwy system band cyflog y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn swydd weinyddol mewn sefydliad o unrhyw fath neu faint yn y GIG, gan gynnwys fel: Ysgrifennydd/Gweinyddwr.
Gofynion mynediad
Ystyrir defnydd da o'r Saesneg yn fanteisiol gyda phwyslais neilltuol ar gywirdeb wrth sillafu.
Cyflwyniad
Sesiynau addysgu gan ddefnyddio trafodaethau, ymarferion/gweithgareddau ymarferol, taflenni gwaith, asesiadau, cyfarwyddiadau uniongyrchol, sesiynau darlithio, fideos a dulliau dysgu eraill.
Bydd gwaith cartref a dysgu annibynnol yn rhan annatod o'r cwrs.
Asesiad
Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol: portffolio o dystiolaeth; asesiadau; cwestiynau atebion byr.
Dilyniant
Dilyniant:
- Ystyriaethau Meddygol ar gyfer Gweinyddwyr, Lefel 3
- Terminoleg Feddygol, Lefel 3
- Sgiliau Cyfathrebu Meddygol, Lefel 3
- Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth, Lefel 3
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: