Trawsgrifio Sain ym maes Meddygaeth Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 awr yr wythnos am 12 wythnos - £130
Trawsgrifio Sain ym maes Meddygaeth Lefel 2Rhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Nod yr uned hon yw galluogi'r dysgwr i feithrin gwybodaeth a sgiliau er defnyddio offer a meddalwedd sain er mwyn cynhyrchu amrywiaeth o ddogfennau meddygol rheolaidd a phroffesiynol. Byddwch yn dysgu sut i drawsgrifio cyfathrebu wedi'i recordio o natur gyffredin sy'n cynnwys terminoleg feddygol a defnyddio technegau prosesu geiriau i gynhyrchu a fformatio dogfennau cyffredin mewn amgylchedd meddygol. Bydd dysgwyr hefyd yn dysgu am bwysigrwydd prawf ddarllen eu gwaith a sut i ddefnyddio dulliau gwirio priodol i gynhyrchu dogfennau cywir a phroffesiynol.
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn eich arfogi â sgiliau pwysig ar gyfer meddygol mewn gwaith gweinyddu meddygol. Gall eich cynorthwyo i lwyddo mewn rôl weinyddol o unrhyw fath mewn sefydliad Gwasanaeth Iechyd Gwladol o unrhyw faint yn cynnwys: Ysgrifennydd, Derbynnydd, Gweinyddwr, Cynorthwyydd Personol, Clerc Cofnodion Meddygol a Chlerc Ward.
Gofynion mynediad
Ystyrir defnydd da o iaith (Saesneg) yn fanteisiol gyda chanolbwyntio arbennig ar gywirdeb wrth sillafu.
Cyflwyniad
Sesiynau addysgu gan ddefnyddio trafodaethau, ymarferion/gweithgareddau ymarferol, asesiadau, cyfarwyddiadau uniongyrchol, arddangosiadau, a dulliau dysgu eraill.
Asesiad
Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol; portffolio o dystiolaeth ac asesiad o dasgau ymarferol.
Dilyniant
Dilyniant:
- Sgiliau Gweinyddol mewn Amgylchedd Meddygol L2
- Sgiliau Cyfathrebu mewn Amgylchedd Meddygol L2
- Gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel Gweinyddwr Meddygol L2
- Terminoleg Feddygol ar gyfer Gweinyddwyr L2
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Business and Management
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: