Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth, Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 hours per week for 15 weeks.

Cofrestrwch
×

Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth, Lefel 3

Rhan amser

Coleg Llandrillo, Abergele
Dydd Iau, 13/02/2025

Disgrifiad o'r Cwrs

Bwriad y cwrs yw'ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau i allu cynhyrchu'n gywir y dogfennau proffesiynol sy'n gyffredin mewn amgylchedd meddygol ac i allu anelu at gyflogaeth sy'n gofyn am sgiliau trawsgrifio clywedol mwy cymhleth.

Byddwch yn dysgu defnyddio adnoddau a thechnegau prosesu geiriau a thrawsgrifio clywedol uwch i atgyfnerthu eich dealltwriaeth o sut i ddehongli gwybodaeth berthnasol a defnyddio technegau prosesu geiriau amrywiol i olygu, fformatio ac argraffu ystod o ddogfennau safonol sy'n gyffredin mewn amgylchedd meddygol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddiol technegau postgyfuno i gyfuno gwybodaeth o ffeil ddata a chynhyrchu llythyrau safonol.

Ar ben hynny, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio dulliau gwirio priodol i gynhyrchu dogfennau cywir, sut i ddefnyddio adnoddau i ddiogelu a rhannu dogfennau a ffeiliau, a sut i ddefnyddio dulliau er mwyn rheoli gwahanol fersiynau.

Gall cymhwyster Lefel 3 mewn Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth eich helpu i lwyddo i symud ymlaen drwy system band cyflog y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn swydd weinyddol mewn sefydliad o unrhyw fath neu faint yn y GIG, gan gynnwys fel: Ysgrifennydd/Gweinyddwr.

Dyddiadau Cwrs

Coleg Llandrillo, Abergele

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
13/02/202509:30 Dydd Iau3.0015 £2250 / 16EXG142697K

Gofynion mynediad

Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth, Lefel 2.

Sgiliau prosesu geiriau.

Mae'r cymhwyster Lefel 2 mewn Terminoleg Feddygol yn hynod fanteisiol ar gyfer trawsgrifio clywedol.

Cyflwyniad

Sesiynau addysgu gan ddefnyddio trafodaethau, ymarferion/gweithgareddau ymarferol, asesiadau, cyfarwyddiadau uniongyrchol, arddangosiadau, a dulliau dysgu eraill.

Asesiad

Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol: portffolio o dystiolaeth ac asesiad o dasgau ymarferol.

Dilyniant

Dilyniant:

  • Ystyriaethau Meddygol ar gyfer Gweinyddwyr, Lefel 3
  • Terminoleg Feddygol, Lefel 3
  • ⁠Sgiliau Cyfathrebu Meddygol, Lefel 3
  • Sgiliau Gweinyddu Meddygol, Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Business and Management

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Business and Management

Myfyrwyr mewn llyfrgell