Hyfforddiant Meddyginiaethau
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod (7 awr)
Hyfforddiant MeddyginiaethauCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â nifer o feysydd sydd yn berthnasol i faes meddyginiaethau.
I ddechrau, byddwch yn dysgu am bwysigrwydd gweini a defnyddio meddyginiaethau yn ddiogel mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r cwrs yn edrych ar bolisïau cyfredol lleol a chenedlaethol ynghyd â rheoliadau yn ymwneud â gweini meddyginiaethau.
Byddwch hefyd yn edrych ar ffyrdd diogel o storio meddyginiaethau, sut i weini meddyginiaethau gan ganolbwyntio ar arferion Iechyd a Diogelwch, cyfathrebu a llenwi ffurflenni cofnodi meddyginiaeth.
Gofynion mynediad
- Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Gwaith grŵp
- sesiwn ymarferol
- cyflwyno mewn dosbarth
Asesiad
- Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy drafodaeth, cwblhau llyfr gwaith byr a'r defnydd o astudiaethau achos.
- Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif gan y coleg.
Dilyniant
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dwyieithog:
n/aIechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant