Microsoft PowerPoint
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 ddiwrnod
Microsoft PowerPointCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i gwmpasu hanfodion Microsoft Powerpoint.
Hanfodion PowerPoint
- Y sgrin PowerPoint
- Creu sleidiau newydd
- Symud o gwmpas cyflwyniad
- Ychwanegu testun at sleidiau
- Gweld y cyflwyniad
- Argraffu sleidiau
Fformatio sleidiau
- Newid cynllun gosod y sleidiau
- Pwyntiau bwled a rhifo
- Newid y cefndir
- Newid y lliwiau
- Penynnau a throedynnau
- Defnyddio templed dylunio
Graffiau a Siartiau
- Creu siart
- Creu siart sefydliad
- Newid dewisiadau siart
- Animeiddio siartiau
Dyddiadau Cwrs
Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
05/11/2024 | 09:00 | Dydd Mawrth | 7.00 | 1 | £95 | 7 / 12 | FIL424123b |
Gofynion mynediad
Nid oes angen profiad blaenorol o PowerPoint ond mae angen gwybod sut i ddefnyddio Windows ar gyfrifiadur.
Cyflwyniad
Erbyn diwedd y cwrs bydd dysgwyr yn deall sut i greu cyflwyniadau effeithiol gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol nodweddion rhaglen PowerPoint. Bydd y dysgwyr yn gallu mewnosod gwrthrychau gan gynnwys testun, delweddau, siartiau, celf clip a siapiau awtomatig. Bydd y dysgwyr hefyd yn gallu addasu eu cyflwyniadau trwy newid y lliw cefndir, defnyddio'r templed dylunio a thrwy ddefnyddio trawsnewidiadau ac animeiddio.
Asesiad
Bydd y cwrs yn cael ei achredu drwy Dystysgrif Presenoldeb
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2