Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth Lefel 1

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1 blwyddyn

Gwnewch gais
×

Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth Lefel 1

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi wedi gwirioni ar gerddoriaeth? Hoffech chi gael gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth?

Ar y cwrs hwn, cewch gyflwyniad gwerthfawr am y sector cerdd a thechnoleg cerdd. Byddwch yn dysgu am bynciau fel: sut i gynllunio a chreu cynnyrch cerddorol, sut i weithio fel cerddor, ar eich pen eich hun ac yn rhan o grŵp.

Byddwch yn dysgu sut i recordio a chynhyrchu cerddoriaeth, a byddwch yn edrych ar y meddalwedd cyfrifiadurol perthnasol a ddefnyddir yn y diwydiant cerddoriaeth.

Bydd hefyd yn eich helpu i chi feithrin amrediad o sgiliau a thechnegau ymarferol, a fydd yn eich paratoi i weithio ac astudio ar lefel uwch. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar nifer o bynciau sy'n seiliedig ar gerddoriaeth a chyfrifiaduron yn ogystal ag astudio cerddoriaeth boblogaidd a recordio.

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw ofynion blaenorol penodol a argymhellir ar gyfer y cymhwyster hwn.

Fodd bynnag, mae lleoedd ar y cwrs yn amodol ar gyfweliad a chlyweliad.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Sesiynau ymarferol a gweithdai

  • Gweithgareddau yn y dosbarth

  • Gwaith grŵp, fel dosbarth cyfan neu mewn grwpiau arbenigol

  • Astudio o'ch pen a'ch pastwn eich hun

  • Sesiynau gyda Thiwtor Personol

  • Ystafell Ddosbarth Google

Byddwch yn elwa ar gyfleusterau sydd o'r radd flaenaf yn ystod y cwrs, a fydd yn amrywio o gampws i gampws.⁠ Mae'r rhain yn cynnwys stiwdio recordio, offerynnau cerddorol, cyfleusterau cymysgu, lolfa fyw, ystafelloedd trin deunydd digidol Mac, ystafelloedd ymarfer a lolfeydd myfyrwyr.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig

  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau

  • Portffolios a llyfrau logio gweithgareddau

  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddordiaeth Level 2

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 1