Harddu Ewinedd ac Uwch Dechnegau Celf Dwylo ac Ewinedd, Lefel 3 (Dyfarniad VTCT)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
20 wythnos, 3 awr yr wythnos (nosweithiau)
Harddu Ewinedd ac Uwch Dechnegau Celf Dwylo ac Ewinedd, Lefel 3 (Dyfarniad VTCT)Rhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb mewn Technoleg Ewinedd? Hoffech chi ddatblygu rhagor ar eich sgiliau ym maes Technoleg Ewinedd?
Bydd y cwrs hwn yn gwella'ch sgiliau harddu ewinedd a'ch sgiliau ym maes arbenigol celf dwylo ac ewinedd. Cewch feithrin sgiliau technegol ac artistig a fydd yn eich galluogi i greu dyluniadau ar themâu ac yn unol â dymuniadau cleientiaid, yn ogystal â dysgu am drefnau iechyd a diogelwch yn y maes arbenigol hwn.
Mae'r cwrs yn cynnwys:
- Acryligau
- Hylif a Phowdr
- Technegau Celf Ewinedd
- Harddu Ewinedd
- Ewinedd Naturiol
- Y dwylo
- Y breichiau
- VTCT L2 Atal Heintiau (COVID-19) ar gyfer Therapi Harddwch a Gwasanaethau Ewinedd
Gofynion mynediad
- Technoleg Ewinedd Lefel 2
- Therapi Harddwch Lefel 2
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Sesiynau ymarferol
- Cefnogaeth tiwtor
- Amgylchedd salon go iawn
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Arsylwi ar waith
- Aseiniadau
- Astudiaethau achos
- Perfformiad
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
3
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Bangor