Olwynion Sgraffinio: Cwrs Ymwybyddiaeth NPORS (N301A)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Hanner diwrnod
×Olwynion Sgraffinio: Cwrs Ymwybyddiaeth NPORS (N301A)
Olwynion Sgraffinio: Cwrs Ymwybyddiaeth NPORS (N301A)Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bwriad y cwrs yw rhoi digon o wybodaeth i staff allu defnyddio a chynnal a chadw offer olwynion sgraffinio yn ddiogel, a bydd yn cynnwys:
- Trosolwg o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch
- Peryglon a mesurau rheoli risg sy'n gysylltiedig ag Olwynion Sgraffinio
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
- Mathau o beiriannau sydd ag olwyn sgraffiniol a sut i'w defnyddio'n ddiogel
- Dewis, marcio, adnabod ac archwilio olwynion sgraffinio gyda bond resin a gwydrog
- Defnyddio fflansys, gwarchodwyr ac ategolion yn gywir a'u gosod, eu haddasu a'u harchwilio
- Cynnal gwiriadau diogelwch ar beiriannau cyn eu defnyddio
- Sut i osod olwynion sgraffinio ar offer amrywiol, yn cynnwys peiriannau llifanu llaw, llifiau a pheiriannau llifanu mainc
- Gosod Olwyn Sgraffinio ar beiriant llifanu a'i ddefnyddio'n ddiogel
Paratoi a gosod yn ddiogel (dim torri na llifanu)
Gofynion mynediad
Dealltwriaeth dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig
Cyflwyniad
Mae'r hyfforddiant yn gyfuniad o theori a dysgu ymarferol
Asesiad
Asesiad theori NPORS sy'n cynnwys cwestiynau agored a chwestiynau amlddewis.
Asesiad ymarferol NPORS.
Dilyniant
Olwynion Sgraffinio gyda Thorri / Llifanu Ymarferol - Cwrs NPORS (N301)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Dwyieithog:
Na