Olwynion Sgraffinio gyda Llif Dorbwynt - Cwrs NPORS (N017)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod

Cofrestrwch
×

Olwynion Sgraffinio gyda Llif Dorbwynt - Cwrs NPORS (N017)

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd canlynol:

  • Dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant, peryglon gweithio yn y diwydiant a chyfrifoldebau gweithredwyr
  • Gwybodaeth ymarferol o lawlyfr y gwneuthurwr a ffynonellau gwybodaeth eraill fel deddfau perthnasol
  • Y gallu i leoli ac adnabod prif gydrannau'r peiriant ac esbonio eu pwrpas
  • Y gallu i leoli ac adnabod y rheolyddion allweddol ac esbonio eu pwrpas
  • Cynnal yr holl wiriadau cynweithredol, yn unol â gofynion y gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
  • Dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) addas ar gyfer llif dorbwynt betrol
  • Dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) addas ar gyfer llif dorbwynt betrol
  • Dewis llafn addas i'r math o waith sy'n cael ei wneud
  • Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn y man gwaith a sefydlu parth diogelwch
  • Paratoi'r peiriant i'w ddefnyddio a defnyddio'r peirianwaith yn ddiogel ac yn effeithlon
  • Ystyriaethau amgylcheddol
  • Storio a chludo llif dorbwynt betrol

Cyflawni'r holl dasgau sydd eu hangen wrth orffen sifft a diffodd y peiriant

Gofynion mynediad

Ym mhob achos mae gofyn i'r gweithredwyr ddangos tystiolaeth i gefnogi eu cais. Rhaid iddynt fod wedi pasio prawf sgrin gyffwrdd iechyd, diogelwch a'r amgylchedd CITB yn y ddwy flynedd cyn eu cais.

Dealltwriaeth dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig

Cyflwyniad

Mae'r hyfforddiant yn gyfuniad o theori a dysgu ymarferol

Asesiad

Asesiad theori NPORS sy'n cynnwys cwestiynau agored a chwestiynau amlddewis.

Asesiad ymarferol NPORS.

Dilyniant

Cyrsiau eraill yn GLLM

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: N/A

Dwyieithog:

Na