NVQ 2 mewn Adeiladu Cychod a Gwasanaethau Ategol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Hafan Pwllheli
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Rhan-amser: 1 flwyddyn (rhyddhad am ddiwrnod i astudio)
NVQ 2 mewn Adeiladu Cychod a Gwasanaethau AtegolRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi'n weithiwr proffesiynol newydd neu eisoes yn gweithio yn y sector morwrol? Ydych chi am ennill cymhwyster gwerthfawr tra byddwch yn gweithio? Bydd y cwrs NVQ hwn yn golygu y caiff eich cymhwysedd ei gydnabod mewn amrywiaeth eang o weithgareddau morwrol, gan gynnwys cynhyrchu cychod, cynnal a chadw cychod a thrwsio cychod dan oruchwyliaeth.
Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen o gymhwyster Lefel 1 neu 2 perthnasol, neu o wybodaeth broffesiynol sydd gennych eisoes. Rhaid ichi fod yn gweithio'n barod yn y diwydiant ac yn chwilio i astudio drwy gael eich rhyddhau am ddiwrnod.
Gofynion mynediad
- Dylech fod yn gweithio mewn amgylchedd adeiladu cychod, ffitio neu gynnal a chadw cychod
- Rhaid i chi fod â chymhelliad ac yn frwdfrydig.
- Dylai fod gennych dueddiad naturiol a phriodol i fod yn fecanyddol ac ymarferol
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Dosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Dangosiadau
- Myfyrio ar eich sgiliau proffesiynol
Asesiad
Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Gwaith cwrs
- Gwaith myfyriol
- Arsylwi ar eich sgiliau ymarferol
Dilyniant
Bydd cwblhau'r NVQ hwn yn helpu i chi symud ymlaen yn eich gyrfa forol. Efallai y byddwch yn gallu ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol yn eich swydd a gweithio tuag at rôl goruchwylio neu reoli. Byddwch wedi gwella eich cyflogadwyedd yn y diwydiant morol, a bydd ystod o ddewisiadau proffesiynol ar gael. Os ydych am symud ymlaen ymhellach mewn addysg, bydd gennych yr opsiwn o symud ymlaen i gwrs Lefel 3. Cynigir nifer o gyrsiau sy'n addas gan Grŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys cwrs Peirianneg Forol BTEC a chwrs City and Guilds mewn Adeiladu Cychod, Cynnal a Chadw a Chefnogaeth.
Gwybodaeth campws Pwllheli
Mae'r cwrs yn cynnwys yr unedau canlynol:
Unedau Craidd:
- Rhagarweiniad i'r Diwydiant Morwrol
- Egwyddorion technoleg adeiladu cychod
Unedau dewisol (dewiswch ddwy):
- Gweithgynhyrchu cyfansawdd ar gyfer adeiladu morwrol
- Gwasanaethu a chynnal a chadw injans morwrol
- Gwasanaethu a chynnal a chadw systemau gyriad morwrol
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Mae'r cwrs yn cynnwys yr unedau canlynol:
Unedau Craidd:
- Rhagarweiniad i'r Diwydiant Morwrol
- Egwyddorion technoleg adeiladu cychod
Unedau dewisol (dewiswch ddwy):
- Gweithgynhyrchu cyfansawdd ar gyfer adeiladu morwrol
- Gwasanaethu a chynnal a chadw injans morwrol
- Gwasanaethu a chynnal a chadw systemau gyriad morwrol
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
2
Dwyieithog:
n/a