Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Mae hyfforddiant undydd ar gael ar gyfer y cymhwyster OFTEC 101, sy'n ddiwrnod 'ymarferol' ar y gwaith o gomisiynu a gwasanaethu boeleri olew.

    Dylai un diwrnod fod yn ddigon i gwblhau'r asesiad ar gyfer OFTEC 101 (ar ben unrhyw hyfforddiant a wnaed)

Gwnewch gais
×

OFT101

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae’r cwrs ymarferol hwn yn addas i'r sawl sydd un ai'n newydd i gomisiynu neu wasanaethau cyfarpar olew pwysedd jet neu oedd yn arfer meddu ar y cymhwyster ond sy'n awyddus i ddiweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau.

Pwrpas y cwrs hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i weithwyr am reoliadau a mynd â hwy drwy'r trefnau cywir ar gyfer dadansoddi hylosgiadau a chomisiynu/gwasanaethu cyfarpar olew pwysedd jet.

Gofynion mynediad

Rhaid i'r sawl sydd am ddilyn y cwrs hwn fod un ai'n weithwyr profiadol ym maes olew, neu fod ar gofrestr GAS SAFE o weithredwyr systemau gwresogi.

(NODER: Bydd gofyn dangos prawf o gymwysterau blaenorol ar ddechrau'r cwrs)

Cyflwyniad

Mae OFTEC-101 yn ofynnol i unrhyw weithredydd sy'n dymuno gweithio ar gyfarpar pwysedd jet domestig ac mae'n cynnwys

- Codau ymarfer

- Ynysu trydan yn ddiogel

- Camau ymarferol comisiynu boeleri

- Gwasanaethu llosgyddion

- Adnabod namau ar systemau

- Adnabod ac unioni namau mewn boeleri/llosgyddion

- Dadansoddi hylosgiadau

- Theori hylosgiad

- Gofynion awyru

Gweithdy ymarferol a gwaith cwrs theori

Asesiad

Asesiad o waith ymarferol a phapur o gwestiynau aml-ddewis

Dilyniant

Bydd y dysgwyr sy'n cwblhau'r asesiad yn llwyddiannus yn gymwys i wneud cais i ymuno â chynllun Unigolion Cymwys OFTEC

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Dwyieithog:

Mae'r hyfforddiant yn ddwyieithog ond nid yr asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol