OFT105E
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Mae hyfforddiant undydd ar gael ar gyfer y cymhwyster OFTEC 105E.
Dylai un diwrnod fod yn ddigon i gwblhau'r asesiad ar gyfer OFTEC 105E (ar ben unrhyw hyfforddiant a wnaed).
OFT105ECyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cynnwys y Cwrs:
- Gofynion diogelwch
- Rheoliadau Adeiladu
- Mathau o olew a sut i'w hadnabod
- Storio olew mewn dur a thermoplastig
- Pibellau darparu cyflenwad tanwydd
- Dyluniad system, yn cynnwys Rhan L1 y Rheoliadau Adeiladu
- Dulliau rheoli thermostatig
- Mesuryddion a larymau gorlenwi
- Problemau halogiad olew
- Lleoliad boeleri olew
- Safonau Prydain
- Awyru
- Ffliwiau
- Arbed ynni
Gofynion mynediad
Rhaid i'r sawl sydd am ddilyn y cwrs hwn fod un ai'n weithwyr profiadol ym maes olew, neu fod ar gofrestr GAS SAFE o weithredwyr systemau gwresogi. (SYLWCH: Bydd angen cyflwyno tystiolaeth o gymwysterau blaenorol ar ddechrau'r cwrs.)
Cyflwyniad
Gweithdy ymarferol a gwaith cwrs theory.
Asesiad
Asesiad o waith ymarferol a phapur o gwestiynau aml-ddewis
Dilyniant
Bydd y dysgwyr sy'n cwblhau'r asesiad yn llwyddiannus yn gymwys i wneud cais i ymuno â chynllun Unigolion Cymwys OFTEC
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3