Pecyn OFTEC (OFT101/105E & 600A)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Mae'r cwrs hwn un ai'n gwrs tridiau ar gyfer ymgeiswyr Categori 1 (dau ddiwrnod o hyfforddiant ac un diwrnod o asesiadau) neu'n gwrs pedwar diwrnod ar gyfer ymgeiswyr Categori 2 (dau ddiwrnod o hyfforddiant a dau ddiwrnod o asesiadau). Mae cost y cwrs yn cynnwys yr holl hyfforddiant, yr asesiadau a'r dystysgrif.

Gwnewch gais
×

Pecyn OFTEC (OFT101/105E & 600A)

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer technegwyr olew sy'n dymuno parhau i fod wedi cofrestru ag OFTEC neu ar gyfer y rhai sy'n newydd i OFTEC, neu sydd angen cofrestru ag OFTEC, sy'n meddu ar brofiad / cymwysterau addas.


Gofynion mynediad

Bwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer technegwyr olew sy'n dymuno parhau i fod wedi cofrestru ag OFTEC neu ar gyfer y rhai sy'n newydd i OFTEC, neu sydd angen cofrestru ag OFTEC, sy'n meddu ar brofiad / cymwysterau addas.

Os ydych chi'n newydd i'r diwydiant heb unrhyw brofiad na sgiliau blaenorol (Categori 3), fe'ch cynghorir i ddilyn y cwrs OFTEC 50 sylfaenol. Unrhyw gymwysterau plymio, nwy neu wresogi ac awyru.

Cyflwyniad

Mae OFTEC-101 yn ofynnol i unrhyw weithredydd sy'n dymuno gweithio ar offer jetiau gwasgedd domestig ac mae'n cynnwys

- Codau ymarfer

- Ynysu trydan yn ddiogel

- Camau ymarferol comisiynu boeleri

- Gwasanaethu llosgyddion

- Adnabod namau ar systemau

- Adnabod ac unioni namau mewn boeleri/llosgyddion

- Dadansoddi hylosgiad

- Theori hylosgiad

- Gofynion awyru

Yn ogystal, rhaid i'r gweithredydd feddu ar y cymwysterau gosod tanciau a gosod systemau perthnasol sy'n i'r gwaith maent yn dymuno ei gyflawni, fel y rhestrir isod:

OFTEC-105E - Gosod Systemau Llosgi Olew Domestig a Mesurau i Arbed Ynni mewn Adeiladau, gan gynnwys

-Codau ymarfer

-Dyluniadau systemau gwresogi

-Adnabod cynlluniau gosod systemau

-Awyru a ffliwiau

-Cyfrifyddu pibellwaith

-Mesurau i arbed ynni

-Datgysylltu boeleri.

Mae OFT600A yn canolbwyntio ar Systemau Storio a Chyflenwi Olew Domestig ac Annomestig, yn benodol

-Codau ymarfer

-Adnabod tanwydd

- Sut i osod systemau tanc

- Dyluniad tanciau

- Ynysu trydan yn ddiogel

- Safonau Prydain.

Asesiad

Mae'r cwrs yn cynnwys astudio'r theori a hyfforddiant ymarferol, ac yna asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn gallu gwneud cais i gofrestru ag OFTEC

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Dwyieithog:

Mae'r hyfforddiant yn ddwyieithog ond nid yr asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol