Llwybr 1 - Datblygu Annibyniaeth
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Canolfan Marl
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
Bydd hyd y rhaglen yn dibynnu ar ofynion unigol y dysgwr. Ni fydd yn hwy na 4 blynedd
Llwybr 1 - Datblygu AnnibyniaethLlawn Amser (Addysg Bellach)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae gan ddysgwyr amserlen a gynlluniwyd ar sail profiadau synhwyraidd unigol ac mae'r rhain wedi eu hamserlennu o gwmpas elfennau pwysicaf a mwyaf perthnasol 4 Piler y cwricwlwm Sgiliau Byw Annibynnol sef: Sgiliau Byw'n Annibynnol Cael Mynediad i'r Gymuned ac Iechyd a Lles.
Gofynion mynediad
Gweithio ar Garreg Filltir 1-3
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy amrywiaeth o brofiadau synhwyraidd i hyrwyddo dewisiadau unigol, rhyngweithio cymdeithasol, cyfathrebu a hunanymwybyddiaeth.
Asesiad
Bydd dysgwyr yn dilyn rhaglen nad yw'n cael ei hachredu. Ar ôl gosod targedau unigol, gall dysgwyr gael eu hasesu drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau sy'n bodloni eu hanghenion dysgu unigol.
Dilyniant
Yn dibynnu ar gyfleoedd lleol, gall dysgwyr symud ymlaen i ganolfannau dydd ac o bosibl, cynlluniau cyflogi gwarchodol.
Gwybodaeth campws Dolgellau
- Cwricwlwm synhwyraidd wedi ei ddarparu i hybu sgiliau cyfathrebu, rhyngweithiad cymdeithasol a gweithgareddau corfforol.
- Technegau cyfathrebu cyson ac effeithiol yn cael eu defnyddio i hybu cyfathrebu'r dysgwr a sgiliau gwneud dewis e.e. drwy ddefnyddio gwrthrychau cyfeirio; switsys; Rhyngweithio Dwys Sgiliau rhyngweithiad cymdeithasol yn cael eu datblygu drwy e.e. Torch Trust, trip preswyl blynyddol, cyfranogiad cymunedol gweithredol a chynhwysiad.
- Gweithgareddau corfforol yn cynnwys sesiynau nofio wythnosol a dilyn cyfarwyddyd ac arweiniad ar gyfer gofal ystum ag anghenion ymarfer corff.
- Gweithio yn effeithiol gyda phobl broffesiynol a darparwyr gwasanaeth i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i ac o'r coleg.
Gwybodaeth campws Glynllifon
Cynlluniwyd y rhaglen i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau'r dysgwyr. Datblygu rhyngweithiad cymdeithasol a gwneud penderfyniadau.
Cwricwlwm synhwyraidd i alluogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial llawn drwy weithgareddau megis siopa, coginio a blasu, gweithgareddau cerddoriaeth, gofal am anifeiliaid bach, straeon cymdeithasol ac ymweliadau allanol i gyd-fynd gyda'r gweithgareddau uchod, sydd yn cael eu cynnal yn y gymuned leol.
Defnyddir Torch Trust ac a Thechnegau Rhyngweithio Dwys i wella'r profiad dysgu.
Mae'r tim yn gweithio yn effeithiol gyda phobl broffesiynol a darparwyr gwasanaeth i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i ac o'r coleg.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
N/A
Dwyieithog:
n/a