Llwybr 2 - Sgiliau Bywyd a Gwaith
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Glynllifon, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
Bydd hyd y rhaglen yn dibynnu ar ofynion unigol y dysgwr. Ni fydd yn hwy na 4 blynedd.
Llwybr 2 - Sgiliau Bywyd a GwaithLlawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Nod y cwrs yw canolbwyntio ar gyflawniadau unigolion er mwyn meithrin eu hunanhyder a'u sgiliau bywyd ymarferol. Bydd dysgwyr yn cael eu dysgu mewn grwpiau bach, a bydd cefnogaeth ychwanegol ar gael iddynt os oes angen. Defnyddir cyfleusterau'r coleg, yn ogystal â lleoedd eraill o ddiddordeb. Mae'r dysgu'n digwydd mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol ac rydym yn gweithio'n agos gyda rhieni a gofalwyr, yn ogystal â sefydliadau proffesiynol, i gefnogi dysgwyr.
Dysgir sgiliau rhifedd a llythrennedd drwy ddefnyddio tasgau sy'n gysylltiedig â bywyd bob dydd. Rhoddir pwyslais hefyd ar feithrin annibyniaeth, a sgiliau personol a chymdeithasol. Caiff gweithgareddau menter eu plethu i elfennau o'r cwrs.
Caiff amserlen y dysgwyr ei threfnu ar sail pedwar piler Sgiliau Byw'n Annibynnol:
- Sgiliau Byw'n Annibynnol
- Iechyd a Lles
- Mynediad i'r Gymuned
- Sgiliau Cyflogadwyedd
Gofynion mynediad
Gweithio ar Garreg Filltir 4 - Mynediad 2.
Mae cynnig lle ar y cwrs hwn yn amodol ar ganlyniad llwyddiannus o gyfres o gyfarfodydd trosiannol a chyfeiriad gan Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydlynydd Anghenion Ychwanegol Ysgolion, Ysgolion Arbennig, Ysgolion a Cholegau Arbenigol annibynnol a Gyrfa Cymru
Dysgwyr dilyniant mewnol: Wedi cwblhau rhaglen ddysgu ac yn gweithio ar lefel Mynediad 2. Mewn rhaglenni nad ydynt yn cael eu hachredu byddwch yn cwblhau asesiad rhifedd a llythrennedd er mwyn Cydnabod a Chofnodi Cynnydd a Chyflawniad (RARPA). Yn ogystal, yn ystod y digwyddiad pontio, byddwch yn cymryd rhan mewn asesiad sy'n cael ei arsylwi fydd yn ein helpu i gytuno ar dargedau priodol.
Llythrennedd / Rhifedd: Llythrennedd a Rhifedd M1/M2 WEST
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o weithgareddau ymarferol a gwaith dosbarth sy'n hyrwyddo annibyniaeth dysgwyr, eu hyder a'u sgiliau cymdeithasol ynghyd â'u gallu i ddewis a gwneud penderfyniadau. Caiff y dysgwyr eu dysgu mewn grwpiau bach.
Asesiad
Gall dysgwyr ddilyn rhaglen nad yw'n cael ei hachredu, neu os yw hynny'n briodol fe allant gwblhau cymhwyster addas arall. Ar ôl gosod a chytuno ar dargedau unigol, gall dysgwyr gael eu hasesu drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau sy'n bodloni eu hanghenion dysgu unigol.
Dilyniant
Cyfleoedd dysgu neu hyfforddi pellach os yw hynny'n briodol.
Gwybodaeth campws Dolgellau
Nod y cwrs yw:
- datblygu hunan-hyder ac annibyniaeth dysgwyr
- gweithio ar sgiliau rhifedd, sgiliau llythrennedd a 4 Piler y cwricwlwm SBA; Sgiliau Byw'n Annibynnol; cymuned; byw iach a sgiliau cyflogadwyedd.
- darparu profiad gwaith/profiad gwaith wedi'i gysgodi sy'n gysylltiedig â'u diddordebau a'u sgiliau personol.
- datblygu sgiliau rhyngweithiad cymdeithasol drwy e.e. trip preswyl blynyddol, cyfranogiad cymuned gweithredol a chynhwysiad.
- cefnogi dysgwyr i'w galluogi i fynd ymlaen i Cam i Waith sy'n ymwneud yn bennaf gyda chael mynediad i brofiad gwaith/profiad gwaith wedi'i gysgodi. -
- gweithio yn effeithiol gyda phobl broffesiynol a darparwyr gwasanaeth i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i ac o'r coleg.
Gwybodaeth campws Glynllifon
Nod y rhaglen yw:
- Gwella hunan-hyder ac annibyniaeth dysgwyr.
- Datblygu 4 Piler y cwricwlwm SBA - Byw'n Annibynnol; cymuned; byw iach a sgiliau cyflogadwyedd i ddatblygu sgiliau personol y dysgwyr.
- Gweithio ar sgiliau rhifedd, sgiliau llythrennedd
- darparu profiad gwaith/profiad gwaith wedi'i gysgodi sy'n gysylltiedig â'u diddordebau a'u sgiliau personol.
- Datblygu sgiliau rhyngweithiad cymdeithasol drwy e.e.cyfranogiad cymuned gweithredol a chynhwysiad.
- Cefnogi dysgwyr i'w galluogi i fynd ymlaen i Cam i Waith sy'n ymwneud yn bennaf gyda chael mynediad i brofiad gwaith/profiad gwaith wedi'i gysgodi.
- Gweithio yn effeithiol gyda phobl broffesiynol a darparwyr gwasanaeth i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i ac o'r coleg
Gwybodaeth campws Llangefni
Nod y rhaglen yw:
- Gwella hunan-hyder ac annibyniaeth dysgwyr.
- Datblygu 4 Piler y cwricwlwm SBA - Byw'n Annibynnol; cymuned; byw iach a sgiliau cyflogadwyedd i ddatblygu sgiliau personol y dysgwyr.
- Gweithio ar sgiliau rhifedd, sgiliau llythrennedd
- Darparu profiad gwaith/profiad gwaith wedi'i gysgodi sy'n gysylltiedig â'u diddordebau a'u sgiliau personol.
- Datblygu sgiliau rhyngweithiad cymdeithasol drwy e.e. cyfranogiad cymuned gweithredol a chynhwysiad.
- Cefnogi dysgwyr i'w galluogi i fynd ymlaen i Cam i Waith sy'n ymwneud yn bennaf gyda chael mynediad i brofiad gwaith/profiad gwaith wedi'i gysgodi.
- Gweithio yn effeithiol gyda phobl broffesiynol a darparwyr gwasanaeth i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i ac o'r coleg.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Yn meithrin dysgwyr i'w galluogi i:
- Gwneud dewisiadau gwybodus a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwneud penderfyniad i hybu eu hannibyniaeth.
- I fagu eu hunan-hyder ac i feithrin sgiliau byw'n annibynnol - sgiliau arian, amser, dilyn cyfarwyddiadau, ac ati.
- Darganfod eu diddordebau mewn ystod o gyfleoedd profiad gwaith.
- Gweithio tuag at dargedau wedi'u teilwrio unigol drwy weithgareddau o fewn y sesiynau canlynol: Gweithgareddau Celf a Chrefft, gweithgareddau Adeiladu Sgiliau, Garddio Ymarferol, Chwaraeon Ymarferol, Coginio Ymarferol, cyfleoedd dysgu Awyr Agored a Sgiliau Bywyd Ymarferol yn ein fflat pwrpasol.
- Mynd ymlaen i'n cwrs Paratoi at Weithio sy'n rhaglen gyflogaeth gyda chymorth ac mae'n ddilyniant o'r llwybr Sgiliau Bywyd a Gwaith. Mae'r cwrs hwn yn galluogi'r dysgwyr i feithrin sgiliau byd gwaith sy'n arwain yn y pen draw ar amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth. Mae'r cyrsiau Paratoi at Weithio'n golygu un diwrnod yn y coleg a dau ddiwrnod o brofiad gwaith.
Yn darparu:
- Mynediad i leoliadau profiad gwaith priodol yn y gymuned leol.
- Ymweliadau Addysgol - yn gysylltiedig gyda 4 Piler y cwricwlwm SBA.
- Sgiliau Bywyd Ymarferol - coginio ymarferol yn ein cegin SBA, Sgiliau Byw Annibynnol yn ein fflat pwrpasol yng Nghanolfan Marl, hyfforddiant mewn defnyddio bysiau cyhoeddus, sgiliau arian, ac ati.
- Sesiynau blasu llwybrau cyflogaeth mewn paratoad ar gyfer dilyniant i'n Rhaglenni Paratoi ar Weithio - ar hyn o bryd yn cynnig llwybrau galwedigaethol mewn chwaraeon, hamdden, lletygarwch, arlwyo, garddwriaeth a manwerthu.
- Hyfforddiant Ymarferol ym maes Chwaraeon
- Sesiynau dysgu awyr agored a all o bosib arwain at gymryd rhan yng Ngwobr Efydd Dug Caeredin.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
N/A
Dwyieithog:
n/a