Llwybr 3 - Paratoi ar gyfer Addysg Bellach

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    Bydd hyd y rhaglen yn dibynnu ar ofynion unigol y dysgwr. Ni fydd yn hwy na 4 blynedd (1 neu 2 flynedd yn Llangefni / Glynllifon / Dolgellau).

Gwnewch gais
×

Llwybr 3 - Paratoi ar gyfer Addysg Bellach

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos
Ymholwch am y cwrs hwn drwy anfon e-bost at Jane Myatt: myatt1j@gllm.ac.uk
Y Rhyl
Ymholwch am y cwrs hwn drwy anfon e-bost at Jane Myatt: myatt1j@gllm.ac.uk

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ar y cyrsiau hyn bydd dysgwyr yn magu hyder i fod yn fwy annibynnol ac yn ennill sgiliau a fynd ymlaen i gyrsiau galwedigaethol pellach yn y coleg. Mae'r cyrsiau hyn wedi'u hanelu at ddysgwyr sy'n gadael yr ysgol ac sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau rhifedd a llythrennedd. O ran rhifedd a llythrennedd, bydd gofyn i ddysgwyr fod yn gweithio ar o leiaf lefel Mynediad 3 neu uwch. Bydd angen iddynt ddod i gyfweliad neu sesiwn rhagflas i wneud yn siŵr bod y cwrs yn addas ar eu cyfer, a bod â'r gallu i gyrraedd y coleg yn annibynnol.

Gofynion mynediad

Mae cynnig lle ar y cwrs hwn yn amodol ar ganlyniad llwyddiannus o gyfres o gyfarfodydd trosiannol a chyfeiriad gan Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydlynydd Anghenion Ychwanegol Ysgolion, Ysgolion Arbennig, Ysgolion a Cholegau Arbenigol annibynnol a Gyrfa Cymru.

Gweithio ar Fynediad 3 - Lefel 1

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o weithgareddau ymarferol a gwaith dosbarth sy'n hyrwyddo annibyniaeth dysgwyr, eu hyder a'u sgiliau cymdeithasol ynghyd â'u gallu i ddewis a gwneud penderfyniadau. Caiff y dysgwyr eu dysgu mewn grwpiau bach.

Asesiad

Ar ôl gosod a chytuno ar dargedau unigol, gall dysgwyr gael eu hasesu drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau sy'n bodloni eu hanghenion dysgu unigol. Bydd dysgwyr yn cwblhau cymhwyster ffurfiol addas.

Dilyniant

Cyfleoedd hyfforddi ac astudio pellach.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Nod y cwrs yw:

  • gwella hunan-hyder a sgiliau symbyliadol dysgwyr.
  • darparu sesiynau blasu mewn e.e. Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Peirianneg; Trin Gwallt a Harddwch; Iechyd a Ffitrwydd, er mwyn i ddysgwyr wneud dewis gwybodus wrth gynllunio nodau gyrfaol i'r dyfodol.
  • darparu profiad gwaith sy'n gysylltiedig â'u diddordebau a'u sgiliau personol. - Galluogi dysgwyr i ymarfer eu sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol mewn paratoad ar gyfer lefel uwch o ddysgu.
  • cefnogi dysgwyr i'w galluogi i gael mynediad i gyrsiau Lefel 2; Hyfforddeiaeth Sgiliau i Waith; hyfforddiant neu raglen brentisiaeth yn ystod y flwyddyn academaidd ganlynol rhoddir cyfle i'r Dysgwyr i ail-sefyll TGAU Cymraeg, Saesneg a Maths os cawsant radd "D" yn flaenorol.

Gwybodaeth campws Glynllifon

Nod y cwrs yw:

  • Datblygu dysgwyr yn bersonol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol
  • Darparu amrywiaeth o sesiynau blasu galwedigaethol e.e. Gofalu am AnifeiliaidPeirianneg Diwydiannau'r Tir, Peirianneg ac ati
  • Mae tîm yr adran yn gweithio'n agos gyda staff galwedigaethol y coleg i baratoi dysgwyr i symud ymlaen i adrannau eraill (os yw hyn yn briodol).
  • Darparu profiad gwaith sy'n gysylltiedig â'u diddordebau a'u sgiliau personol.
  • Helpu dysgwyr i benderfynu ar lwybr gyrfa Galluogi dysgwyr i ymarfer eu sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol mewn paratoad ar gyfer lefel uwch o ddysgu.
  • Cefnogi dysgwyr i'w galluogi i gael mynediad i gyrsiau Lefel 1/ 2; Chwilio am Brosiect / Hyfforddeiaeth; hyfforddiant neu raglen brentisiaeth yn ystod y flwyddyn academaidd ganlynol rhoddir cyfle i'r Dysgwyr i ail-sefyll TGAU Cymraeg, Saesneg a Maths os cawsant radd "D" yn flaenorol.

Gwybodaeth campws Llangefni

Nod y cwrs yw:

  • Datblygu dysgwyr yn bersonol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol
  • Darparu amrywiaeth o sesiynau blasu galwedigaethol e.e. Gwallt a Harddwch, Lletygarwch, Peirianneg, Celf, Cyfryngau, Iechyd a Ffitrwydd ac ati.
  • Mae tîm yr adran yn gweithio'n agos gyda staff galwedigaethol y coleg i baratoi dysgwyr i symud ymlaen i adrannau eraill (os yw hyn yn briodol).
  • Darparu profiad gwaith sy'n gysylltiedig â'u diddordebau a'u sgiliau personol.
  • Helpu dysgwyr i benderfynu ar lwybr gyrfa Galluogi dysgwyr i ymarfer eu sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol mewn paratoad ar gyfer lefel uwch o ddysgu.
  • Cefnogi dysgwyr i'w galluogi i gael mynediad i gyrsiau Lefel 1/ 2; Chwilio am Brosiect / Hyfforddeiaeth; hyfforddiant neu raglen brentisiaeth yn ystod y flwyddyn academaidd ganlynol.
  • Rhoddir cyfle i'r Dysgwyr i ail-sefyll TGAU Cymraeg, Saesneg a Maths os cawsant radd "D" yn flaenorol.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Yn meithrin dysgwyr i'w galluogi i: Paratoi ar gyfer AB (Mynediad 3):

  • Yn hybu ac yn canolbwyntio ar ddatblygu hyder a hunan-barch drwy ystod o weithgareddau seiliedig ar yr ystafell ddosbarth.
  • O bosib cael mynediad i raglenni prif lif galwedigaethol ar lefel 1.
  • Ym mlwyddyn 1 - cyfleoedd i gymryd rhan mewn sesiynau dysgu awyr agored ymarferol, Profiad ymarferol o Chwaraeon, Coginio a Sgiliau Bywyd yn ein fflat pwrpasol.
  • Ym mlwyddyn 2 - y pwyslais yn bennaf ar baratoi ar gyfer dilyniant i un ai astudiaethau Cyn-Alwedigaethol (Lefel 1) neu gyrsiau galwedigaethol prif lif.

Astudiaethau Cyn-Alwedigaethol (Lefel 1):

  • Ennill y sgiliau a'r hyder i fynd ymlaen i gyfleoedd prif lif mewn maes galwedigaethol dethol ar Lefel 2.
  • Dyma raglen sydd a llawer llai o bwyslais ymarferol ac sy'n fwy ynglŷn â gweithio tuag at y sgiliau astudio, llythrennedd a rhifedd sydd eu hangen er mwyn mynd ymlaen i gyrsiau Lefel 2 prif lif.

Mae yna opsiwn ar ddiwedd y ddau gwrs i fynd ymlaen i raglenni Paratoi at Weithio, sydd yn rhaglen gyflogaeth wedi ei chefnogi sydd yn dilyn ymlaen o'r llwybr Cyn-Alwedigaethol. Mae'r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau ar gyfer y gweithle sydd yn y pen draw yn arwain at amrywiaeth o gyfleodd cyflogaeth a thal. Mae'r cyrsiau Paratoi at Weithio'n golygu un diwrnod yn y coleg a dau ddiwrnod o brofiad gwaith.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 1

Dwyieithog:

n/a