Llwybr 4 - Rhaglen Interniaeth â Chymorth

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dolgellau, Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd, ASDA
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Llwybr 4 - Rhaglen Interniaeth â Chymorth

Llawn Amser (Addysg Bellach)

AsdaLlandudno
Dolgellau
Ysbyty Glan
YsbytyGwynedd

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae hon yn rhaglen interniaeth un flwyddyn sydd yn cefnogi pobl ifanc ag anabledd dysgu a/neu awtiaeth, gan eu galluogi i ennill i sgiliau a'r profiad i symud i waith cyflogedig.

Nod yr interniaethau wedi eu cefnogi yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth a thal drwy:

  • Eu cefnogi i ddatblygu sgiliau a werthfawrogir gan gyflogwyr.
  • Eu galluogi i ddangos eu gwerth yn y gweithle.
  • Datblygu hyder yn eu galluoedd eu hunain i berfformio'n llwyddiannus yn y gwaith.

Gofynion mynediad

Mae cynnig lle ar y cwrs hwn yn amodol ar ganlyniad llwyddiannus o gyfres o gyfarfodydd trosiannol a chyfeiriad gan Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydlynydd Anghenion Ychwanegol Ysgolion, Ysgolion Arbennig, Ysgolion a Cholegau Arbenigol annibynnol a Gyrfa Cymru.

Gall rhieni/gofalwyr/sefydliadau cyflogaeth a sefydliadau trydydd sector sy'n cefnogi oedolion ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i drosglwyddo i fyd gwaith wneud ceisiadau hefyd.

Mae cynnig o le ar y cwrs yn amodol ar ddymuniad y person ifanc i ennill gwaith cyflogedig.

Cyflwyniad

Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno o fewn y busnes sy'n croesawu. Bydd yr interniaid yn cael eu dysgu'n ffurfiol ar ddechrau a diwedd pob dydd.

Asesiad

Ar ôl gosod a chytuno ar dargedau unigol, Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu o fewn eu hinterniaethau. Gall dysgwyr gwblhau cymhwyster ffurfiol os yn briodol i'w canlyniadau cyflogaeth.

Dilyniant

Gwaith Cyflogedig.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Sgiliau i Waith - Skills for Work. Mewn partneriaeth gydag Agoriad Cyf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Yn seiliedig ar y model interniaeth "Engage to Change" Agoriad Cyf. Interniaid yn dechrau ym mis Medi ac yn cwblhau ffurflenni cofrestru Agored a choleg ac yn dilyn cynlluniau cyflwyno a hyfforddi yn ôl rolau gwaith a ddynodwyd. Yr hyfforddiant yn ymgorffori'r sgiliau craidd, Cyflogadwyedd (yn bennaf), Iechyd a Lles, Sgiliau Byw Annibynnol, y Gymuned, Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol. Fel rhan o'r amserlen, bydd yr holl interniaid yn cymryd rhan mewn ymarfer "Cyfranogiad Cymuned" hanner ffordd drwy'r rhaglen lle byddant yn cymryd rhan weithredol mewn rôl gwirfoddoli yn yr ardal leol. Gall hyn fod ar ffurf garddio neu baentio neu ymweld â chartrefi gofal lleol i siarad gyda'r cleientiaid.

Gwybodaeth campws Llangefni

Gweithio mewn partneriaeth gyda Betsi Cadwaladr, Agoriad Cyf (Engage to Change) a Project Search, nod y rhaglen yw'r Byd Gwaith. Mae'r hyfforddiant yn ymgorffori'r sgiliau craidd, Cyflogadwyedd , Iechyd a Lles, Sgiliau Byw Annibynnol, y Gymuned, Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Ddigidol. Mae dysgwyr yn gweithio fel interniaid yn yr ysbyty ac yn cael profiad o hyd at dair shifft mewn adrannau gwahanol. O ganlyniad i'r rhaglen, dros y 3 blynedd diwethaf wedi arwain at ganran uchel o ddysgwyr yn cael gwaith cyflogedig.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: N/A

Dwyieithog:

n/a