Ffotograffiaeth a Photoshop
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
8 wythnos.
Ffotograffiaeth a PhotoshopRhan amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo i ddeall eich camera a meddalwedd digidol. Bydd hefyd yn cryfhau eich sgiliau ffotograffiaeth presennol.
Byddwch yn cael eich cyflwyno i hanfodion ffotograffiaeth, o gyfansoddiad lluniau a rheolyddion sylfaenol camerâu i Adobe Photoshop a Lightroom.
Ar y cwrs byddwch yn dysgu am:
- Reolyddion sylfaenol camerâu
- Cyfansoddiad lluniau
- Hyd ffocws
- Cydbwysedd lliw
- Triongl amlygu (agorfa, caead, ISO)
- Golygu
- Trosglwyddo ffotograffau o gamera i gyfrifiadur
- Y papur cyswllt
- Adobe Photoshop
- Adobe Lightroom
- Peth o hanes ffotograffiaeth a ffotograffwyr
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â David Clarke: clarke1d@gllm.ac.uk
Dyddiadau Cwrs
Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
14/01/2025 | 18:00 | Dydd Mawrth | 2.00 | 8 | £95 | 3 / 12 | ALI149513 |
Gofynion mynediad
Dim.
Cyflwyniad
Gweithdai wythnosol.
Asesiad
Aseiniadau wythnosol. Bydd angen portffolio o'r lluniau a dynnwyd gennych yn ystod y cwrs ar gyfer asesiad terfynol.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn i ddechreuwyr gallwch symud ymlaen i'r cwrs byr Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddogfennol. Mae llawer o gyrsiau eraill ar gael mewn ffotograffiaeth a chelf a dylunio hefyd, un ai'n rhan neu'n llawn amser.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
1
Dwyieithog:
n/a