Prentisiaeth - Plymwaith a Gwresogi
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 mlynedd
Prentisiaeth - Plymwaith a GwresogiPrentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Pwrpas y llwybrau fframwaith ydy rhoi cyfle i ymgeiswyr newydd ac unigolion sydd eisiau datblygu eu gyrfa ddatblygu'r cymwyseddau sydd eu hangen i ymdrin â thasgau a chyfrifoldebau ym maes gosod, cynnal a chadw, comisiynu a gwasanaethu systemau plymwaith a gwresogi mewn cartrefi. Mae hefyd yn cynnwys:
- Technolegau Amgylcheddol
- Gofynion technegol a newidiadau
- Rheoliadau a gofynion statudol ac anstatudol
Gall busnes eich cyflogwr gynnwys gwaith gosod, gwasanaethu, cynnal a chadw a thrwsio amrywiaeth o systemau ac offer plymwaith, yn cynnwys:
- Cawodydd; Baddonau; Sinciau; WC
- Pibellau draenio, pibellau copr a phlastig a gwteri
- Systemau gwresogi nwy; Thermol yr haul; Pympiau Gwres; Olew a Tansawdd Solet.
Gallai'r rhain gael eu gosod ar eiddo domestig, diwydiannol a masnachol.
Gofynion mynediad
- Lleiafswm o 3 TGAU gradd A* i C mewn Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a chymhwyster seiliedig ar Wyddoniaeth neu Dechnoleg
I fodloni'r meini prawf mynediad ar gyfer y Brentisiaeth, dylai fod gennych gymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu neu'ch bod wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd ar ôl gadael addysg orfodol.
Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol gyda'r prentis a'r cyflogwr
Cyflwyniad
- Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol, ac amser i astudio Sgiliau Hanfodol Cymru.
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
- Asesiadau seiliedig ar waith colegau a chyflogwyr
Dilyniant
Hyfforddiant pellach mewn llwybrau tanwydd fel nwy, ynni adnewyddadwy ac arbenigeddau meysydd masnach eraill
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
3
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llangefni
- Llandrillo-yn-Rhos