Plymio - Dilyniant (Noswaith)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 flynedd, 2 noson yr wythnos

    £1000

Cofrestrwch
×

Plymio - Dilyniant (Noswaith)

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu:

  • Dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i wasanaethau adeiladu
  • Dealltwriaeth o agweddau ar gyflogaeth a chyflogadwyedd yn y sector
  • Sgiliau cyflogadwyedd a dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn berthnasol i arfer cyfoes mewn crefft ddewisol
  • Eu gwybodaeth a’u gallu i gymhwyso gofynion iechyd a diogelwch gweithio ar safleoedd, gydag offer a chydag eraill wrth weithio mewn crefft ddewisol
  • Dealltwriaeth o’r mathau o waith a phrosiectau a wneir mewn crefft ddewisol, a chyd-ddibyniaeth y gwaith hwn gyda gwaith gan grefftwyr eraill, yn y cyfnod dylunio, adeiladu, defnyddio a chynnal a chadw
  • Dealltwriaeth o’r offer, technegau, defnyddiau a thechnolegau a ddefnyddir mewn crefft ddewisol a sut maent yn newid, ac wedi newid, dros amser
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n ofynnol mewn llwybr masnach dewisol, fel y nodir yn y ddogfen hon i’r safonau cenedlaethol perthnasol
  • Sgiliau ymarferol wrth gyflawni ystod eang o dasgau mewn crefft ddewisol
  • Y gallu i gynllunio a gwerthuso eu perfformiad yn effeithiol wrth gyflawni ystod eang o dasgau mewn crefft ddewisol

Mae’r unedau craidd i’w hastudio yn cynnwys:

  • Cyflogaeth a Chyflogadwyedd yn y Sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
  • Newid Arferion Dros Amser
  • Cynllunio a Gwerthuso Gwaith yn y Sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Nghymru

Unedau pwnc-benodol i’w hastudio:

  • Deall Egwyddorion Gwyddonol
  • Deall Systemau Plymio a Gwresogi Craidd
  • Deall Systemau Dŵr Oer
  • Deall Systemau Dŵr Poeth
  • Deall Systemau Gwres Canolog
  • Deall Systemau Dŵr Glaw
  • Deall Systemau Glanweithdra
  • Perfformio Gosod Systemau Plymio a Gwresogi

Gofynion mynediad

Dim meini prawf mynediad ffurfiol ond bydd angen lefel sylfaenol dda o lythrennedd a rhifedd.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy sesiynau addysgu a sesiynau ymarferol.

Asesiad

  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Arholiad ar-lein
  • Trafodaeth broffesiynol gyda thiwtor

Dilyniant

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 2