Gweithdy Crochenwaith
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
8 wythnos (2 awr yr wythnos)
Gweithdy CrochenwaithRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb mewn crochenwaith ac am gael profiad anffurfiol o'r grefft? Oes gennych chi syniad yr hoffech ei ddatblygu? Bydd tiwtoriaid profiadol yn datblygu eich sgiliau ac yn eich cynorthwyo i gyflawni'ch amcanion.
Bydd y gweithdai'n cael eu cynnal dros wyth wythnos ac maent wedi'u cynllunio i'ch cyflwyno i'r gwahanol dechnegau sy'n rhan o adeiladu â llaw: pinsio, torchi, adeiladu slabiau a mowldio drwy bwyso. Caiff dulliau addurno arwyneb a gwydro eu cynnwys yn y sesiynau. Yn ogystal, ceir arddangosiadau ar Droell y Crochenydd (Taflu) os gofynnir am hyn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â David Clarke: clarke1d@gllm.ac.uk
Gofynion mynediad
Dim anghenion mynediad ffurfiol, ond diddordeb mewn crochenwaith yn ddymunol.
Cyflwyniad
- Cyflwynir y cwrs drwy arddangosiadau.
- Caiff sesiynau eu cyflwyno fesul cam ac mae'r gweithdai'n addas ar gyfer pob lefel, o ddechreuwyr llwyr i ddysgwyr mwy profiadol.
Asesiad
Trwy'r eitemau a gynhyrchir.
Dilyniant
- Gweithdy Crochenwaith Tymor 1 a 2
- Darpariaeth Ran-amser – Gwaith Gwydr, Lluniadu a Phaentio, Bywluniadu, Brodio, Gwneud Printiau, Llyfrau Braslunio Artistiaid
- Diploma Sylfaenol Rhan-amser mewn Celf a Dylunio
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
1
Dwyieithog:
n/a