Peirianneg Pŵer (Gwynt) Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 flwyddyn (34 wythnos, 5 diwrnod yr wythnos yn y coleg, a 5 wythnos o brofiad gwaith)
Peirianneg Pŵer (Gwynt) Lefel 3Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Rhaid i ymgeiswyr sy'n cofrestru ar y cwrs hwn fod â diddordeb brwd mewn gweithio yn y diwydiant tyrbinau gwynt a bod yn awyddus i ddysgu a deall rhagor am dyrbinau gwynt. Mae gwybodaeth eang am beirianneg yn sylfaenol i'r cwrs ac ymdrinnir ag agweddau trydanol, mecanyddol, hydrolig ac offer rheoli sydd i gyd yn hanfodol i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio fel peiriannydd tyrbinau gwynt.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 4 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
- BTEC Diploma Atodol Lefel 3 mewn Peirianneg
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Drwy gyfuniad sesiynau yn yr ystafell ddosbarth a'r gweithdy fydd yn cynnwys gwaith grŵp, trafodaethau a thiwtorialau.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
- Arsylwadau parhaus
- Arholiadau ysgrifenedig
Dilyniant
Mae'r cymhwyster hwn yn dangos dealltwriaeth eang o'r diwydiant gwynt a fydd yn gwella rhagolygon gyrfaol yn y sector hwnnw. Mae hefyd yn darparu dilyniant i gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai gan gynnwys HNC mewn Peirianneg Gyffredinol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
n/a