Prentisiaethau - Y Sector Ynni Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
24 mis
Prentisiaethau - Y Sector Ynni Lefel 3Prentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Brentisiaeth hon yn gyfle i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau a nodwyd gan y sector. Bydd yn denu gweithwyr newydd i'r maes drwy ddarparu llwybr strwythuredig ar gyfer cymhwyso a datblygu gyrfa a gellir ei defnyddio hefyd i ddatblygu sgiliau staff presennol. Mae'n rhoi cyfle i gyflogwyr "ddatblygu" eu gweithlu eu hunain mewn meysydd lle mae'n gynyddol anodd recriwtio unigolion sy'n dechnegol gymwys. Mae'r Brentisiaeth yn galluogi cyflogwyr i adnabod rheolwyr y dyfodol ac yn ddefnyddiol ar gyfer cynllunio ar gyfer olyniaeth. Mae iddi hefyd fanteision uniongyrchol megis lleihau trosiant ymhlith staff.
Gofynion mynediad
- Rhaid i bob Prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf y NVQ
Cyflwyniad
Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle, ond bydd gofyn i'r holl ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori.
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
n/a