Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan Amser - 10–12 wythnos

    1 Diwrnod yr wythnos (1 diwrnod neu prynhawn a noswaith yn ddibynnol ar y campws.)

    • Llandrillo-yn-Rhos: Dydd Llun 11:30am-5pm
    • Bangor: Dydd Llun 12-5pm
    • Dolgellau: Dydd Llun 4:15-6:30pm
Gwnewch gais
×

Paratoi i Addysgu

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r modiwl hwn yn rhan o'r cwrs Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg/Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai a allai fod yn addysgu neu'n hyfforddi (ond nad oes ganddynt gymhwyster addysgu cydnabyddedig eto) neu sydd am ddechrau gyrfa mewn addysgu. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer y rhai sy'n dyheu am fod, neu sy'n ddarlithwyr coleg, darparwyr addysg oedolion a chymunedol, hyfforddwyr milwrol a gwasanaeth cyhoeddus, swyddogion hyfforddi ac eraill sydd â rôl addysgu neu hyfforddi.

Ni fwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer rhai sy'n dymuno addysgu mewn ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd.

Ffioedd

Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad Cychwyn

Mis Medi

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Gofynion mynediad

  • O leiaf cymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r pwnc arbenigol yr ydych yn dymuno ei ddysgu
  • Dylai tiwtoriaid galwedigaethol fod â phrofiad sylweddol (o leiaf bum mlynedd yn y diwydiant)
  • Gwiriad manwl gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Tystiolaeth o sgiliau llythrennedd a Rhifedd Lefel 2 neu uwch
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor: meistrolaeth ar y Saesneg (IELTS lefel 7 neu gymhwyster cyfatebol).
  • TGAU mewn Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, gradd C/4 neu uwch.
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau fod wedi'u haddysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
  • TGAU Mathemateg yn ddymunol

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp

  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth

  • Cefnogaeth Tiwtorial

  • Ymweliadau addysgol

  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)

  • Google Classroom

  • Siaradwyr Gwadd

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Lesley Surguy-Price (Rhaglen Arweinydd - Coleg Llandrillo): surguy1l@gllm.ac.uk

Christian Davies (Rhaglen Arweinydd - Coleg Menai): davies10c@gllm.ac.uk

Simon Evans (Rhaglen Arweinydd - Coleg Meirion-Dwyfor): simon.evans@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs hwn yn cael ei asesu drwy ystod o weithgareddau sy'n medru cynnwys:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios o waith
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Mae'r mwyafrif o gyrchfannau myfyrwyr naill ai wedi bod o fewn sefydliadau fel y coleg neu'r brifysgol. Mae rhai hefyd wedi sicrhau swyddi hyfforddi yn eu sefydliad. Yn ogystal, mae rhai myfyrwyr TAR wedi sicrhau swyddi ar gyrsiau israddedig yn y sector addysg uwch.

Gall myfyrwyr symud ymlaen i gwrs gradd pe dymunent. Gallant hefyd weithio i sicrhau swyddi addysgu yn y sector addysg ôl-orfodol.

Efallai y bydd rhai graddedigion hefyd eisiau symud ymlaen i addysg uwch a'r rhaglenni Meistr mewn sefydliadau addysg uwch.

  • Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol)
  • Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol)

Gwybodaeth campws Bangor

Gwybodaeth am yr Uned

Ar y cwrs byr hwn, sy'n para 10–12 wythnos, cewch gyflwyniad i egwyddorion sylfaenol dysgu ac addysgu. Byddwch yn edrych ar swyddogaethau a chyfrifoldebau ymarferwyr yn y sector dysgu gydol oes, gan gynnwys hyrwyddo arferion da er mwyn sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Yn y sesiynau, cewch gyflwyniad i'r egwyddorion a'r arferion sy'n sail i'r prif ddulliau a ddefnyddir i reoli'r dysgu mewn sefyllfaoedd a chyd-destunau arferol; y defnydd a wneir o gymhorthion dysgu (gyda phwyslais ar dechnolegau dysgu); a dulliau asesu a gwerthuso.

Bydd y pynciau yr ymdrinnir â hwy'n cynnwys ymwybyddiaeth o ddysgu ac addysgu mewn sefyllfa ddwyieithog; gweld a chael profiad o ddigwyddiadau dysgu ac o'r hinsawdd dysgu; a sgiliau cyfathrebu ac arddulliau addysgu.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4-6

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor
  • Dolgellau

Sefydliad dyfarnu