PRINCE2® (6ed argraffiad) Sylfaen ac Ymarferydd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
6 mis
PRINCE2® (6ed argraffiad) Sylfaen ac YmarferyddRhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
A yw'r cwrs ar-lein PRINCE2 yn addas i mi?
Mae'r pecyn yn cynnwys y dystysgrif PRINCE2 ar lefel Sylfaen a'r dystysgrif PRINCE2 ar lefel Ymarferydd, ac felly byddai'n addas i ddechreuwyr ym maes rheoli prosiectau sydd am symud ymlaen i lefel Ymarferwyr.
Rydym yn argymell y cymhwyster PRINCE2 hwn os ydych am feithrin sgiliau rheoli prosiectau o'r radd flaenaf, gwella eich rhagolygon gyrfaol a datblygu gyrfa ym maes rheoli prosiectau.
Nid oes raid i ymarferwyr sy'n meddu ar y dystysgrif PRINCE2 (6ed argraffiad) gyfredol sefyll yr arholiadau a ddiweddarwyd yn 2017 ond argymhellir eu bod yn ymgyfarwyddo â deunydd y cwrs newydd.
Gofynion mynediad
I ddechrau dilyn cwrs hyfforddi PRINCE2 ar lefel cymhwyster Sylfaen, bydd peth dealltwriaeth gyffredinol o reoli prosiectau'n fanteisiol. Ond, nid oes rhagofynion ffurfiol.
I gofrestru ar gwrs hyfforddi PRINCE2 ar lefel cymhwyster Ymarferydd, bydd angen i chi fod wedi pasio un o'r cymwysterau canlynol:
- Tystysgrif Sylfaen PRINCE2 (5ed neu 6ed Argraffiad)
- PMP (Project Management Professional)
- CAPM (Certified Associate in Project Management)
- IPMA Lefel A, B, C, neu D
Cyflwyniad
Darperir ar-lein drwy gyfrwng e-ddysgu.
Asesiad
Arholiadau ar-lein swyddogol sy'n cael eu goruchwylio
Dilyniant
Pa swyddi alla i ymgeisio amdanynt ar ôl cwblhau fy hyfforddiant PRINCE2?
Ar ôl cwblhau'r cwrs PRINCE2 ar lefel Sylfaenol a lefel Ymarferydd, gallwch ddechrau gweithio mewn amrywiol swyddi ym maes Rheoli Prosiectau, gan gynnwys:
Tystysgrif Sylfaen PRINCE2
- Gweinyddwr Prosiectau - £22k
- Dadansoddwr ym maes Rheoli Prosiectau - £28k
- Rheolwr Prosiectau Iau - £29k
- Cynorthwyydd ym maes Rheoli Prosiectau - £30k
Tystysgrif Ymarferydd PRINCE2
- Dadansoddwr Iau ym maes Busnes - £28k
- Rheolydd Prosiectau - £34k
- Uwch Ddadansoddwr Prosiectau - £36k
- Rheolwr Prosiectau - £42.5k
(Ffynhonnell: Payscale)
https://www.e-careers.com/courses/prince2-foundation-practitioner-online?q=EC113944
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: