Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 flynedd (1 diwrnod NEU hanner diwrnod a noson yr wythnos)

    • Llandrillo-yn-Rhos: Dydd Llun 11:30am-5pm
    • Bangor: Dydd Llun 12-5pm
    • Dolgellau: Dydd Llun 2:30-6:30pm
Gwnewch gais
×

Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Datgloi eich Potensial Addysgu

Nod y Rhaglen yw:

  • Rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o egwyddorion dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn y sector ôl-orfodol.
  • Meithrin y defnydd o egwyddorion addysgu cadarn yn unol â safonau proffesiynol a gwerthoedd y sector.
  • Meithrin sgiliau adfyfyrio beirniadol ac ymdeimlad dwys o gyfrifoldeb tuag at ddysgwyr.
  • Meithrin creadigrwydd ac arloesedd mewn addysgu trwy ddefnyddio technoleg ac adnoddau amrywiol er mwyn cynnig profiadau dysgu gwell.

Hoffech chi ddechrau ar yrfa werth chweil yn dysgu pobl ifanc ac oedolion? Neu a ydych chi eisoes yn addysgu, ond yn awyddus i gael cymhwyster cydnabyddedig?

Yn ychwanegol, mae tystiolaeth o'r blynyddoedd diwethaf yn dangos bod cwblhau'r cwrs yma'n gwella potensial gyrfaol a chyflogaeth aelodau'r cwrs.

Pa un a ydych yn athro neu'n athrawes newydd neu brofiadol, bydd y cwrs rhan-amser hwn yn eich helpu i ddatblygu'ch gyrfa ym maes addysg ôl-orfodol. Cewch y sgiliau, y wybodaeth a'r cymhwyster a fydd yn eich galluogi i ddechrau neu i barhau i addysgu ym maes addysg bellach, ym maes dysgu oedolion neu ddysgu yn y gymuned, mewn carchardai neu ym maes dysgu seiliedig ar waith.

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer rhai sydd ag uchelgais i fod, neu sydd eisoes yn ddarlithwyr coleg, darparwyr addysg oedolion neu addysg gymunedol, hyfforddwyr yn y gwasanaeth milwrol neu'r gwasanaeth cyhoeddus, swyddogion hyfforddi ac eraill sy'n ymwneud ag addysgu neu hyfforddi.

Ni fwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer rhai sy'n dymuno addysgu mewn ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd

  • O leiaf cymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r pwnc arbenigol yr ydych yn dymuno ei ddysgu
  • Dylai tiwtoriaid galwedigaethol fod â phrofiad sylweddol (o leiaf pum mlynedd yn y maes)
  • Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau fod wedi cael eu haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg/Saesneg.

Rhaid i chi fod ag o leiaf 100 o oriau ymarfer addysgu dros gyfnod y cwrs, a rhaid i chi gwblhau 40 awr o arsylwi ymarferwyr profiadol.

Pan fyddwch yn trefnu'ch ymarfer dysgu eich hun, rhaid i'r dysgu ddigwydd mewn amgylchedd a gymeradwyir (e.e. Addysg Bellach, addysg oedolion, y sector gwirfoddol neu ddarparwr hyfforddiant sy'n derbyn cyllid cyhoeddus) a gofynnir am eirda gan eich cyflogwr.

Gofynion Ieithyddol

  • Meistrolaeth dda ar y Gymraeg neu'r Saesneg, gyda TGAU gradd C/4 neu uwch neu gymhwyster cyfwerth
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor: meistrolaeth ar y Saesneg (IELTS lefel 7 neu gymhwyster cyfwerth)
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau fod wedi cael eu haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg/Saesneg
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor sydd am ddechrau ar Lefel 4: Bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn is na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor sydd am ddechrau ar Lefel 5: Bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn is na 5.5)
  • TGAU Mathemateg yn ddymunol

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir uchod, byddem yn dal i'ch annog i wneud cais am y cwrs y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, gan y bydd llawer o'n cyrsiau'n ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Rydym yn cynnig amgylchedd addysgol deinamig a dull cyfannol o ddysgu sy'n ymgorffori elfennau amrywiol er mwyn cyfoethogi'r profiad academaidd. Mae gweithio mewn grwpiau'n rhan ganolog o'n cwricwlwm gan ei fod yn annog athrawon dan hyfforddiant i gydweithredu a gweithio mewn tîm ac i fynd ymlaen i ailadrodd hyn yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain. Mae dysgu yn y dosbarth yn darparu sylfaen strwythuredig ar gyfer trafodaethau difyr a sesiynau rhyngweithiol sy'n hyrwyddo dealltwriaeth ddyfnach o addysg mewn lleoliadau amrywiol. I ategu hyn, mae tiwtorialau'n sicrhau bod anghenion dysgu unigol yn cael eu diwallu drwy gynnig arweiniad personol i wella dealltwriaeth. Mae MOODLE a Google Classroom yn amgylcheddau dysgu rhithwir cadarn sy'n cynnig adnoddau, aseiniadau a llwyfannau ar gyfer cyfathrebu parhaus. At hynny, mae amrywiaeth y siaradwyr gwadd a ddaw i rannu eu harbenigedd a'u profiad o'r byd go iawn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu cynhwysfawr a chyfoethog.

Yn ogystal ag agweddau ar y cwrs a addysgir yn uniongyrchol, bydd disgwyl i chi wneud cryn dipyn o astudio personol, rhywfaint gyda chymorth system reoli dysgu ar-lein. Cynlluniwyd strategaeth ddysgu ac addysgu'r cwrs i fodloni'r canlyniadau dysgu.

Yn gyffredinol, mae'r cwrs yn gyfuniad o:

  • ddarlithoedd
  • gweithdai
  • trafodaethau a thasgau rhyngweithiol eraill
  • gweithgareddau ar y cyd
  • darllen/astudio pynciau penodol dan gyfarwyddyd
  • astudio'n annibynnol yn ôl angen personol
  • rhoi damcaniaethau ar waith mewn gweithgareddau micro-addysgu,
  • profiad addysgu dilys mewn lleoliad gwaith.

Disgwylir i fyfyrwyr sy'n dilyn y dyfarniad rhan-amser hwn fod ar gael un diwrnod yr wythnos i fynychu'r elfennau o'r rhaglen a addysgir. Yn ogystal, disgwylir iddynt gasglu tystiolaeth o ymarfer dysgu ar gyfradd o 50 awr y flwyddyn o leiaf.

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Lesley Surguy-Price (Rhaglen Arweinydd - Coleg Llandrillo): surguy1l@gllm.ac.uk

Christian Davies (Rhaglen Arweinydd - Coleg Menai): davies10c@gllm.ac.uk

Simon Evans (Rhaglen Arweinydd - Coleg Meirion-Dwyfor): simon.evans@gllm.ac.uk

Lisa Nobbs (Gweinyddiaeth): nobbs1l@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Yn ystod y cwrs, byddwch:

  • yn ymgymryd â sesiynau micro-addysgu a chewch eich arsylwi'n addysgu grwpiau o fyfyrwyr
  • yn darparu cynlluniau gwersi a chynlluniau dysgu ynghyd â seiliau rhesymegol dros y strategaethau addysgu a ddefnyddir
  • yn cwblhau ffeil ymarfer dysgu sy'n cwmpasu o leiaf 100 awr o ymarfer dysgu
  • yn darparu adroddiadau ysgrifenedig ar amrywiaeth o waith, gan gynnwys astudiaethau achos yn ymwneud â strategaethau dysgu ac addysgu, cyflwyniadau, cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp, a chreu dogfennau cwricwlaidd
  • yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd personol
  • yn cwblhau dyddlyfrau adfyfyriol, a chreu cynlluniau datblygu personol

Dilyniant

Mae'r cymhwyster hwn yn eich galluogi i addysgu yn y sector ôl-orfodol.

Ymhlith y llwybrau datblygu, mae rhaglenni Gradd mewn Addysg neu ym maes proffesiynol yr ymgeisydd.

Gwybodaeth campws Bangor

Disgrifiad cwrs

Mae ein cwrs Tystysgrif Addysg rhan-amser yn eich gwneud yn gymwys i weithio yn y sector ôl-orfodol (e.e. addysg bellach, addysg oedolion ac addysg gymunedol, mewn carchardai neu yn y gweithle). Yn ddiweddar, adolygwyd y cyrsiau i gwrdd â Safonau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig mewn perthynas â Dysgu Gydol Oes. Bydd y cymhwyster yn rhoi cyfle i chi feithrin y sgiliau sy'n angenrheidiol i ddysgu dysgwyr hŷn na 14 oed (rhai 16 oed gan amlaf) ac a seiliwyd ar ddealltwriaeth gadarn o'r damcaniaethau dysgu a ddefnyddir yn eich pwnc arbenigol.

Gwybodaeth uned

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio gyda grŵp o athrawon sy'n datblygu eu crefft. Byddwch yn dod i ddeall mwy am ddulliau addysgu a dysgu. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am gwestiynau allweddol, damcaniaethau a chysyniadau, yn ogystal â datblygu'ch sgiliau eich hun. Byddwch yn ehangu'ch repertoire o ddulliau a strategaethau addysgu a dysgu ac yn datblygu dealltwriaeth o amrywiol anghenion dysgwyr. Byddwch yn ystyried sut y gellir defnyddio'r damcaniaethau ynghylch dysgu ac asesu wrth ddysgu'ch pwnc. Cewch eich annog i ddadansoddi a beirniadu polisïau ac arferion sy'n ymwneud â dysgu'ch pwnc, ac i ddatblygu eich dull ystyriol eich hun o ddysgu'ch pwnc.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn edrych ar faterion ehangach ym maes addysg ôl-orfodol, gan ddysgu ac addysgu o'ch safbwynt chi fel arbenigwr pwnc, a byddwch yn gweithio ar brosiectau gyda chyd-fyfyrwyr yn eich maes pwnc eich hun ac mewn meysydd pwnc eraill.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad cwrs

Mae ein cwrs Tystysgrif Broffessiynol mewn Addysg rhan-amser yn eich gwneud yn gymwys i weithio yn y sector ôl-orfodol (e.e. addysg bellach, addysg oedolion ac addysg gymunedol, mewn carchardai neu yn y gweithle). Bydd y cymhwyster yn rhoi cyfle i chi feithrin y sgiliau sy'n angenrheidiol i ddysgu dysgwyr hŷn na 14 oed (rhai 16 oed gan amlaf) ac a seiliwyd ar ddealltwriaeth gadarn o'r damcaniaethau dysgu a ddefnyddir yn eich pwnc arbenigol.

Gwybodaeth uned

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio gyda grŵp o athrawon sy'n datblygu eu crefft. Byddwch yn dod i ddeall mwy am ddulliau addysgu a dysgu. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am gwestiynau allweddol, damcaniaethau a chysyniadau, yn ogystal â datblygu'ch sgiliau eich hun. Byddwch yn ehangu'ch repertoire o ddulliau a strategaethau addysgu a dysgu ac yn datblygu dealltwriaeth o amrywiol anghenion dysgwyr. Byddwch yn ystyried sut y gellir defnyddio'r damcaniaethau ynghylch dysgu ac asesu wrth ddysgu'ch pwnc. Cewch eich annog i ddadansoddi a beirniadu polisïau ac arferion sy'n ymwneud â dysgu'ch pwnc, ac i ddatblygu eich dull ystyriol eich hun o ddysgu'ch pwnc.

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn edrych ar faterion ehangach ym maes addysg ôl-orfodol, gan ddysgu ac addysgu o'ch safbwynt chi fel arbenigwr pwnc, a byddwch yn gweithio ar brosiectau gyda chyd-fyfyrwyr yn eich maes pwnc eich hun ac mewn meysydd pwnc eraill.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4-6

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau

Sefydliad dyfarnu