Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 flynedd (1 diwrnod NEU hanner diwrnod a noson yr wythnos)

    • Llandrillo-yn-Rhos: Dydd Llun 11:30am-5pm
    • Bangor: Dydd Llun 12-5pm
    • Dolgellau: Dydd Llun 2:30-6:30pm
Gwnewch gais
×

Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Disgrifiad o'r Cwrs

Nod y Rhaglen yw:

  • Rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o egwyddorion dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn y sector ôl-orfodol.
  • Meithrin y defnydd o egwyddorion addysgu cadarn yn unol â safonau proffesiynol a gwerthoedd y sector.
  • Meithrin sgiliau adfyfyrio beirniadol ac ymdeimlad dwys o gyfrifoldeb tuag at ddysgwyr.
  • Meithrin creadigrwydd ac arloesedd mewn addysgu trwy ddefnyddio technoleg ac offer amrywiol er mwyn cynnig profiadau dysgu gwell.

Hoffech chi ddechrau ar yrfa werth chweil yn dysgu pobl ifanc ac oedolion? Neu a ydych chi eisoes yn addysgu, ond yn awyddus i gael cymhwyster cydnabyddedig?

Yn ychwanegol, mae tystiolaeth o'r blynyddoedd diwethaf yn dangos bod cwblhau'r cwrs yma'n gwella potensial gyrfaol a chyflogaeth aelodau'r cwrs.

Pa un a ydych yn athro neu'n athrawes newydd neu brofiadol, bydd y cwrs rhan-amser hwn yn eich helpu i ddatblygu'ch gyrfa ym maes addysg ôl-orfodol. Cewch y sgiliau, y wybodaeth a'r cymhwyster a fydd yn eich galluogi i ddechrau neu i barhau i addysgu ym maes addysg bellach, ym maes dysgu oedolion neu ddysgu yn y gymuned, mewn carchardai neu ym maes dysgu seiliedig ar waith.

Os oes gennych radd yn barod, bydd y cwrs addysgu hwn yn addas i chi. Gan eich bod wedi cael profiad ym maes Addysg Uwch, bydd yn gyfle i chi ennill cymhwyster Lefel 6. Ni fwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer rhai sydd am addysgu mewn ysgolion cynradd neu uwchradd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

  • Gradd Anrhydedd (o leiaf 120 credyd, gyda'u hanner ar Lefel 6 neu uwch)
  • Gwiriad manwl gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Tystiolaeth o sgiliau llythrennedd a rhifedd Lefel 2 (neu uwch)
  • Yn gallu cwblhau o leiaf 100 awr o ymarfer dysgu yn ystod y cwrs mewn amgylchedd cymeradwy (e.e. Addysg Bellach, addysg oedolion, y sector gwirfoddol neu gyda darparwr hyfforddiant sy'n derbyn cyllid cyhoeddus). Rhaid i chi gwblhau 40 awr o arsylwi ymarferwyr profiadol.

Gofynion ieithyddol:

  • Meistrolaeth dda ar y Saesneg neu Cymraeg, ynghyd â TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) gradd C/4 neu uwch
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor: meistrolaeth ar y Saesneg (IELTS lefel 7 neu gymhwyster cyfatebol).
  • TGAU mewn Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, gradd C/4 neu uwch.
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau fod wedi'u haddysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
  • TGAU Mathemateg yn ddymunol

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir uchod, byddem yn dal i'ch annog i wneud cais am y cwrs y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, gan y bydd llawer o'n cyrsiau'n ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtorial
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)
  • Siaradwyr Gwadd

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Lesley Surguy-Price (Rhaglen Arweinydd - Coleg Llandrillo): surguy1l@gllm.ac.uk

Christian Davies (Rhaglen Arweinydd - Coleg Menai): davies10c@gllm.ac.uk

Catrin Edwards (Rhaglen Arweinydd Blwyddyn 1 - Coleg Meirion-Dwyfor): edward4c@gllm.ac.uk

Delyth Williams (Rhaglen Arweinydd Blwyddyn 2 - Coleg Meirion-Dwyfor): willia11d@gllm.ac.uk

Lisa Nobbs (Gweinyddiaeth): nobbs1l@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae ein dulliau asesu yn amlweddog ac yn sicrhau gwerthusiad cynhwysfawr o gynnydd a dealltwriaeth athrawon dan hyfforddiant. Defnyddir dulliau asesu amrywiol i ddiwallu anghenion a sgiliau amrywiol. Rydym yn pwysleisio pwysigrwydd asesu parhaus trwy gyfrwng aseiniadau a phrosiectau, gan annog unigolion i feddwl yn feirniadol, datrys problemau a bod yn greadigol. Mae addysgu cymheiriaid yn galluogi hyfforddeion i ymarfer a chymhwyso eu gwybodaeth ddamcaniaethol mewn ystafelloedd dosbarth go iawn. Mae asesiadau ffurfiannol, sy'n defnyddio prosesau sy'n cynnig llawer o adborth, yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus, tra bod asesiadau crynodol yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o berfformiad cyffredinol. Adlewyrchir ein hymrwymiad i degwch a chynwysoldeb yn ein defnydd o ddulliau asesu gwahanol sy'n cydnabod cryfderau a galluoedd amrywiol ein myfyrwyr.

Mae'r cwrs hwn yn cael ei asesu drwy ystod o weithgareddau sy'n medru cynnwys:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios o waith
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn gallu chwilio am waith mewn nifer o wahanol sefydliadau addysg ôl-orfodol.

Os ydych eisoes yn addysgu, caiff eich sgiliau eu cydnabod yn ffurfiol ac mae'n bosibl y gallwch ymgeisio am swydd well.

Dewis arall fyddai parhau â'ch astudiaethau, gan ddilyn cwrs Meistr mewn Addysg neu yn eich maes arbenigol.

Gwybodaeth campws Bangor

Gwybodaeth am yr Uned

Modiwlau: Blwyddyn 1 (Modiwlau Cyffredinol):
  • Paratoi i Addysgu
  • Dysgu a Rhoi Addysgeg ar Waith
  • Cynllunio ac Asesu'r Dysgu
  • Ymarfer Proffesiynol 1
Modiwlau: Blwyddyn 2
  • Ymchwil Gweithredol
  • Gwella'r Dysgu, yr Addysgu a'r Asesu
  • Ymarfer Proffesiynol 2

Gwybodaeth campws Dolgellau

Gwybodaeth am yr Uned

Modiwlau: Blwyddyn 1 (Modiwlau Cyffredinol):
  • Paratoi i Addysgu
  • Dysgu a Rhoi Addysgeg ar Waith
  • Cynllunio ac Asesu'r Dysgu
  • Ymarfer Proffesiynol 1
Modiwlau: Blwyddyn 2
  • Ymchwil Gweithredol
  • Gwella'r Dysgu, yr Addysgu a'r Asesu
  • Ymarfer Proffesiynol 2

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Gwybodaeth am yr Uned

Modiwlau: Blwyddyn 1 (Modiwlau Cyffredinol):
  • Paratoi i Addysgu
  • Dysgu a Rhoi Addysgeg ar Waith
  • Cynllunio ac Asesu'r Dysgu
  • Ymarfer Proffesiynol 1
Modiwlau: Blwyddyn 2
  • Ymchwil Gweithredol
  • Gwella'r Dysgu, yr Addysgu a'r Asesu
  • Ymarfer Proffesiynol 2

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4-6

Sefydliad dyfarnu: Bangor University

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor
  • Dolgellau

Sefydliad dyfarnu