Dilyniant mewn Gosodiadau Trydanol Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 flwyddyn (2 ddiwrnod yr wythnos) / 2 flynedd (2 noson yr wythnos)
Dilyniant mewn Gosodiadau Trydanol Lefel 2Rhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Datblygwyd y cwrs EAL Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) fel cymhwyster ôl-16 ar gyfer unigolion sy’n gweithio neu sy’n bwriadu gweithio yn y sector gosodiadau trydanol yn y maes peirianneg gwasanaethau adeiladu.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad penodol ar gyfer y cymhwyster Dilyniant. Mae EAL yn argymell y dylai dysgwr fod wedi cyflawni cymhwyster Sylfaen mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) cyn symud ymlaen i Ddilyniant (ond nid yw'n hanfodol).
Byddai angen i ddarpar ddysgwyr gael cyfweliad, y gellir ei gynnal dros y ffôn.
Cyflwyniad
- Sesiynau theori
- Sesiynau ymarferol
Asesiad
- Asesiadau ar-lein
- Asesiadau ysgrifenedig
- Asesiadau ymarferol
- Trafodaeth dan arweiniad
Dilyniant
EAL Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Gosodiadau Electrodechnegol C00/4278/8 (Prentisiaeth)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
2