Paratoi i Weithio yn y Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Paratoi i Weithio yn y Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi ddatblygu gyrfa mewn gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai?
Mae'r rhaglen hon yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn gwasanaethau mewn lifrai e.e. gwasanaeth tân, heddlu, byddin, llynges ac ati.
Mae'r rhaglen yn briodol ar gyfer dysgwyr sy'n weithgar yn eu ffitrwydd a'u dysgu. Fe'i cynlluniwyd i'ch arfogi â'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i lwyddo mewn cyflogaeth gyfredol ac yn y dyfodol, neu symud ymlaen i gyrsiau Lefel 3.
Mae'r cwrs yn cynnwys gweithgareddau awyr agored lle cewch eich herio yn gorfforol ac yn feddyliol. Bydd hyn yn gofyn am y dillad cywir ac agwedd gadarnhaol tuag at ddatblygu'ch hun. Fe'i cyflwynir gan ddefnyddio cymysgedd o dasgau a gweithgareddau ymarferol, cysylltiedig â gwaith a damcaniaethol
I gael gwybodaeth am ein Academïau Chwaraeon, cliciwch yma Academïau Campfa a Chwaraeon
Gofynion mynediad
4 TGAU gradd A* - D, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg / Rhifedd - neu - gymhwyster Diploma Lefel 1 (MM) mewn maes galwedigaethol perthnasol ynghyd â bod wedi dangos ymrwymiad i'ch astudiaethau yn eich prif raglen a chynnydd mewn Mathemateg a Saesneg.
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych y proffil gofynion mynediad, neu a oes gennych gymwysterau amgen sy'n gyfwerth yn eich barn chi, cysylltwch â gwasanaethau dysgwyr trwy'r swyddogaeth sgwrsio neu'n uniongyrchol. Bydd gwasanaethau dysgwyr yn gallu trafod eich proffil a'ch cynghori ynghylch opsiynau cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen trwy gyfuniad o'r canlynol:
- Gweithgareddau ymarferol ac awyr agored
- Trafodaeth ystafell ddosbarth
- Darlithoedd ffurfiol
- Siaradwyr gwadd
- Ymchwil unigol
- Gwaith grŵp
- Prosiectau
- Cefnogaeth ac adnoddau ar-lein
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Portffolios gwaith
- Perfformio ac arsylwi
Dilyniant
Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych amryw o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.
Byddwch wedi meithrin gwybodaeth werthfawr am y gwasanaethau cyhoeddus lifrog ac wedi derbyn hyfforddiant a chymhwyster i'ch helpu i lwyddo. Yn ogystal â mynd ymlaen i weithio i'r gwasanaeth cyhoeddus o'ch dewis, gallwch hefyd geisio am swyddi eraill fel gweithio i awdurdod lleol neu i gwmni diogelwch.
Os hoffech fynd ymlaen i ddilyn cwrs uwch, cewch ddewis o nifer o gyrsiau Lefel 3, yn enwedig os cewch Ragoriaeth ar Lefel 2.
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai Lefel 3
- Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored Lefel 3
- Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) Lefel 3
- Chwaraeon (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) Lefel 3
- Chwaraeon (Hyfforddi, Datblygu a Ffitrwydd) Lefel 3
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
2
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Bangor