RTITB Estyn A Gwrthbwyso / Gwrthbwyso Ac Estyn: Cwrs cyfnewid

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:
    • 2 ddiwrnod (15 awr) – dim mwy na 3 gweithredwr
    • 2 ddiwrnod (12 awr) – dim mwy na 2 weithredwr
    • 1 diwrnod (8 awr) – dim mwy na 1 gweithredwr
Gwnewch gais
×

RTITB Estyn A Gwrthbwyso / Gwrthbwyso Ac Estyn: Cwrs cyfnewid

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithredwyr sydd wedi cael hyfforddiant ffurfiol ar Estyn neu Wrthbwyso yn barod.

Gofynion mynediad

Dim.

Cyflwyniad

Byddwch yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu ac ymarferion ymarferol yn y dosbarth

Asesiad

Asesir gweithredwyr ar eu...

  • Gallu i wirio cerbyd cyn ei ddefnyddio
  • Theori a dealltwriaeth o gyfyngiadau o ran eu defnyddio ac arferion gweithio diogel
  • Gallu ymarferol i ddefnyddio'r cerbyd yn ddiogel

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs cyfnewid hwn gall unigolion fynd ymlaen i ddefnyddio cerbydau codi eraill yn gynnwys llwythwr telesgopig diwydiannol.

Neu fynd ymlaen i ddefnyddio llwythwr telesgopig oddi ar y ffordd yn y diwydiant adeiladu neu'r diwydiant amaeth. Gall ymgeiswyr hefyd ymlaen i ddilyn cyrsiau NVQ ym maes Warysau a Chludiant.

Gwybodaeth campws Llangefni

Mae'r cwrs hwn ar gael yn ein canolfan hyfforddi wagen fforch godi yn Llangefni neu yn eiddo'r cwsmer.

Bydd cwrs hyfforddi'r RTITB ar ddefnyddio cerbydau codi a gwrthbwyso (neu dryciau fforch godi) yn rhoi'r sgiliau i chi ddefnyddio'r tryciau'n ddiogel ac effeithiol, gwneud archwiliad cyn-ddefnyddio, a chofio ac esbonio achosion ansefydlogrwydd tryc a llwyth

Er nad yw'n gyfyngedig iddynt, mae'r cwrs hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Rheolyddion ac offer tryciau codi
  • Cychwyn/symud/stopio a llywio'r tryc
  • Defnyddio'r rheolyddion hydrolig
  • Gyrru ar/oddi ar ramp
  • Llenwi a dadlwytho cerbyd
  • Stacio a dad-stacio
  • Sefydlogrwydd Tryc Codi
  • Cod diogelwch y defnyddwyr

Gwybodaeth campws Dysgu o bell

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Dwyieithog:

n/a