Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Gweithdrefnau Arbennig gan y Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus (RSPH)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, Dolgellau, Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod. £150 (yn cynnwys y ffi arholiad).
Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Gweithdrefnau Arbennig gan y Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus (RSPH)Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs wedi'i anelu at ymarferwyr aciwbigo, ymarferwyr tyllau clustdlysau a thlysau eraill, ymarferwyr electrolysis ac artistiaid creu tatŵ. Yr amcan yw amlinellu egwyddorion rheoli haint drwy ddefnyddio rhagofalon 'cadwyn heintio' a 'rheoli heintiau safonol' i Ymarferwyr Gweithdrefnau Arbennig sy'n gyflogedig, sy'n hunangyflogedig neu sy'n ymarferwyr sy'n rheoli busnes. Mae'n gymhwyster gwerthfawr sydd hefyd yn addas i ymarferwyr dan hyfforddiant mewn hyfforddiant a chyflogaeth alwedigaethol berthnasol.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, gall dysgwyr sy'n dymuno gweithredu yng Nghymru wneud cais am Drwydded Gweithdrefnau Arbennig dan Ran 4 Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Dyddiadau Cwrs
Busnes@Abergele
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
27/01/2025 | 09:00 | Dydd Llun, Dydd Iau | 7.00 | 1 | £150 | 1 / 12 | D0017249 |
Gofynion mynediad
Cymhwyster yn y meysydd uchod - Harddwch / Ymarferydd Aciwbigo / Artist creu tatŵ
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno gan ddefnyddio gweithgareddau grŵp, llyfrau gwaith, senarios a chwestiynau ymarfer.
Asesiad
Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth yr ymgeisydd yn cael ei asesu trwy gyfrwng arholiad amlddewis un awr a fydd yn cynnwys 30 cwestiwn. Y marc llwyddo yw 25 marc. Y graddau asesu yw Llwyddo neu Fethu.
Dilyniant
- Iechyd a diogelwch yn y gweithle, Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH)
- Sgraffinio
- Lefel 4 Micro nodwyddo
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2